Grŵp gwerin cyfoes a ffurfiwyd yn 2018 yw Pendevig. Ffurfiwyd y band yn arbennig ar gyfer perfformiadau yn Festival Interceltique de Lorient a phafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018[1]. Rhyddhawyd albwm cyntaf y band, Pendevig I., i gyd-fynd â'r perfformiadau hyn.

Pendevig
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata

Maent yn cyfuno cerddoriaeth draddodiadol o Gymru â dylanwadau jazz, drum 'n' bass, ffync, pop a roc; yn ogystal â chynnwys barddoniaeth berfformiadol yn nifer o'u caneuon. Mae eu perfformiadau byw yn cynnwys elfennau theatrig megis dawnswyr, acrobateg a thân.

Enillodd Pendevig y wobr am y Band Byw Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019. Roeddent hefyd ar y rhestr fer am y gân draddodiadol orau gyda 'Lliw Gwyn' (fersiwn o 'Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf'), oddi ar eu halbwm cyntaf.

Aelodau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Pendevig - An Electric Reaction to Tradition | National Eisteddfod". eisteddfod.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-30. Cyrchwyd 2019-11-27.