Iestyn Tyne
Bardd, llenor, a cherddor o Gymruyw Iestyn Tyne (ganwyd 3 Gorffennaf 1997). Ef yw un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn llenyddol Y Stamp, ac mae'n aelod o'r bandiau gwerin Patrobas a Pendevig. Mae'n byw yn Twthill, Caernarfon.
Iestyn Tyne | |
---|---|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1997 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor, llenor |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguMae Iestyn yn fab ffarm o Foduan ym Mhen Llŷn. Saesneg oedd iaith ei aelwyd adref, ond dysgodd siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol. Mynychodd Ysgol Gynradd Pentreuchaf ac Ysgol Uwchradd Botwnnog. Aeth ymlaen i wneud ei lefelau A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli gan astudio amrywiaeth o'r creadigol a'r ymarferol - Cymraeg, Celf, Daearyddiaeth a Busnes. Yn ystod ei amser yn y coleg, bu'n chwarae mewn band a ddaeth i'w adnabod wedyn fel Patrobas, sydd wedi ryddhau EP (Dwyn y Dail, 2015) ac albwm (Lle awn ni nesa'?, 2017). Mae wedi teithio i berfformio yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg. Mae'n perfformio'n rheolaidd fel rhan o fand Gwilym Bowen Rhys.
Wedi hynny aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a graddiodd yn y Gymraeg yn 2018. Roedd am gyfnod yn aelod o'r ddeuawd, Gwawn, yn perfformio cerddoriaeth acwstig yn ardal Aberystwyth. Mae hefyd yn aelod o'r siwpyr-grŵp gwerin arbrofol, Pendevig.[1]
Gyrfa
golyguMae'n gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Gwynedd yn rhan amser.
Barddoni
golyguYn 2016, enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir y Fflint 2016 a chadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru.[2] Hunan-gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Addunedau, yn 2017;[3] a chyhoeddodd ei ail gyfrol, Ar adain, drwy Gyhoeddiadau'r Stamp yn 2018.[4]
Yn 2019, enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro, gan ddod y cyntaf erioed i ennill coron a chadair yr Urdd.[5] Fe'i penodwyd yn yr un flwyddyn yn fardd preswyl cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2021 (ond a ohiriwyd tan 2023 oherwydd Y Gofid Mawr - Covid-19).[6]
Ar y cyd â Grug Muse, roedd yn gyfrifol am olygu Dweud y Drefn pan nad oes Trefn, blodeugerdd o 100 o gerddi cyfoes gan feirdd Cymraeg, a gyhoeddwyd yn 2020.[7]
Mae hefyd yn gyfrifol am y blog Casglu'r Cadeiriau sy'n olrhain cadeiriau eisteddfodol sydd naill ai ar goll neu wedi mynd yn angof.
Llyfryddiaeth
golygu- Dweud y Drefn pan nad oes Trefn: Blodeugerdd 2020 (gol., gyda Grug Muse, 2020), Cyhoeddiadau'r Stamp
- Addunedau (2017), Cyhoeddiadau'r Stamp
- Ar adain (2018), Cyhoeddiadau'r Stamp
- Cywilydd (2019), Cyhoeddiadau'r Stamp
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Iestyn Tyne (Cyfweliad). Blog Stafell Gerdd (1 Hydref 2018).
- ↑ https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/student-iestyn-tyne-takes-years-11425285
- ↑ https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/258696-fideo-bardd-ifanc-yn-cyhoeddi-ar-ei-liwt-ei-hun
- ↑ https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-event/lansiad-ar-adain-iestyn-tyne/
- ↑ Iestyn Tyne yw’r cyntaf i ‘ennill y dwbwl’ yn yr Urdd , Golwg360, 30 Mai 2019.
- ↑ "Iestyn Tyne yw bardd preswyl yr Eisteddfod | Eisteddfod Genedlaethol". eisteddfod.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-15. Cyrchwyd 2020-01-15.
- ↑ "Angen i lên Cymraeg dorri'n rhydd o "ddynion gwyn o'r 1960au"". Golwg360. 2020-09-24. Cyrchwyd 2021-01-19.