Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn

Yn draddodiadol, Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn (Saesneg: White House Chief of Staff) yw'r gweithiwr uchaf yn y Tŷ Gwyn. Mae'r swydd yn olynydd modern i rôl gynharach o'r enw Ysgrifennydd Preifat yr Arlywydd. Ffurfiolwyd y rôl newydd o dan yr enw Cynorthwy-ydd i'r Arlywydd yn 1946, gan gymryd ei henw presennol ers 1961.

Penodir Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn gan yr Arlywydd a gwasanaetha er pleser yr Arlywydd; nid oes rhaid i'r Senedd gadarnhau'r penodiad. Un o swyddogaethau'r rôl yw bod yn bennaeth ar Swyddfa Weithredol Arlywydd yr Unol Daleithiau a gynhwysa Swyddfa'r Tŷ Gwyn.

Ron Klain yw'r Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn presennol, yn ei swydd ers 20 Ionawr 2021.