Pensaernïaeth Romanésg
Mae pensaernïaeth Romanésg yn arddull pensaernïol a flodeuai yn Ewrop o'r 11g hyd at gychwyn pensaernïaeth Gothig tua chanol y 12g. Gelwir enghreifftiau o'r arddull yng Nghymru a Lloegr hefyd yn bensaernïaeth Normannaidd.
- Gweler hefyd Celf Romanésg
Mae ei gwreiddiau'n gymysg. Mae'n cyfuno arddulliau Carolingiaidd, Rhufeinaidd a Bysantaidd ac ar ben hynny dylanwadwyd arni gan sawl arddull lleol.
Arddull pensaernïol eglwysig ydyw yn bennaf. Un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol o'r arddull ar y cyfandir yw eglwys gadeiriol Pisa yn yr Eidal.
Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.