Mudiad Protestannaidd efengylaidd yw Pentecostiaeth sydd yn pwysleisio profiad personol yr addolwr o Dduw trwy weithrediad yr Ysbryd Glân. Nodwedd unigryw y ffurf hon ar Gristnogaeth yw'r profiad a elwir "bedydd â'r Ysbryd Glân". Caiff ei ystyried yn un o brif fudiadau Cristnogaeth Garismataidd a ddaeth yn boblogaidd yn yr 20g a'r 21g. Amcangyfrifir bod rhyw 250 miliwn o Bentecostiaid ar draws y byd.[1] Mae'r enw yn tarddu o Ddydd y Pentecost yn y Beibl, pan lanwyd apostolion Iesu â’r Ysbryd Glân ac y gwnaethant dderbyn nerth ysbrydol Duw: "Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle, ac yn sydyn fe ddaeth o'r nef sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle'r oeddent yn eistedd. Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt; a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a dechreusant lefaru â thafodau dieithr, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt." (Actau 2:1-4).

Bedydd Pentecostaidd yn Aracaju, Brasil.

Datblygodd o weinidogaeth Charles Fox Parham (1873–1929) yn Kansas, Unol Daleithiau America, yn nechrau'r 20g.[2] Pregethodd Parham fod glosolalia yn gysylltiedig â'r bedydd â'r Ysbryd Glân, a denodd nifer o ddilynwyr i'w athrawiaeth. Sefydlwyd sawl eglwys Bentecostaidd, ac ymchwyddodd y niferoedd yn enwedig ers y 1970au.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Pentecostalism", BBC. Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2021.
  2. Synan, Vinson (Fall 1987), "Pentecostalism: Varieties and Contributions" (yn en), Pneuma: The Journal of the Society for Pentecostal Studies 9: 31–49, doi:10.1163/157007487x00047.