Y Deuddeg Apostol
disgyblion yr Iesu yn nhraddodiad Cristnogaeth
(Ailgyfeiriad o Apostolion Iesu)
Am y creigiau yn Victoria, Awstralia, gweler Y Deuddeg Apostol (Victoria).
Yn ôl efengylau y Testament Newydd, roedd gan Iesu ddeuddeg disgybl y rhoddodd awdurdod arbennig iddynt. Gelwir y rhain yn y Deuddeg Apostol. Rhoddir yr enw "apostol" hefyd i lond llaw o ffigurau eraill yn y Testament Newydd.
Rhestrir enwau'r deuddeg yn Efengyl Mathew (10:2–4) ac Efengyl Marc (3:16–19). (Trefnir yr enwau ychydig yn wahanol yn y ddwy efengyl.)
- Pedr (neu Simon)
- Iago fab Sebedeus
- Ioan, brawd Iago
- Andreas
- Philip
- Bartholomeus
- Mathew
- Thomas
- Iago fab Alffeus
- Thadeus
- Simon y Selot (neu Simon y Canaanead)
- Jwdas Iscariot
Ar ôl i Jwdas Iscariot fradychu Iesu a'i grogi ei hun, etholodd yr apostolion eraill Mathias i gymryd ei le.