Pentir Spurn
Pentir yn Nwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Pentir Spurn[1] (Saesneg: Spurn Head neu Spurn Point). Mae'n ymwthio i Fôr y Gogledd ar ochr gogleddol aber Afon Humber. Mae'n cynnwys ynys gul tua 3 milltir (5 km) o hyd sydd wedi'i chysylltu â'r tir mawr gan dafod o dywod, graean a chlog-glai. Mae gorsaf bad achub yr RNLI a dau oleudy (nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach) wedi'u lleoli arni. Mae'n Warchodfa Natur Genedlaethol sy'n eiddo i Ymddiriedolaethau Natur Swydd Efrog ers 1960.
Math | ynys lanwol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyrain Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Môr y Gogledd |
Cyfesurynnau | 53.6°N 0.1°E |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)