Lle a grybwyllir yn y Beibl yw Penuel ("wyneb Duw"), hefyd Peniel. Ymddengys ei fod i'r dwyrain o afon Iorddonen ac i'r gogledd o afon Jabbok.

Cofnodir yr hanes yn llyfr Genesis, lle mae Jacob yn ymryson â dyn, sy'n cael ei amlygu fel angel (Gen. 32:24-32). Rhoddodd Jacob yr enw "Penuel" neu "Peniel" ar y lle. Ceir cyfeiriad at dref ar y safle yn Llyfr y Barnwyr, lle mae'r trigolion yn gwrthod cynorthwyo Gideon, gyda'r canlyniad i Gideon ei dinistrio.

Daeth yn boblogaidd fel enw ar gapeli anghydffutfiol yng Nghymru, ac mae pentrefi o'r enw "Peniel" yn Sir Gaerfyrddin a Sir Ddinbych.