Angel
Yn ôl yr Hen Destament a'r Coran, negesydd Duw yw angel. Yn aml, mae golau ac adenydd yn gysylltiedig â nhw a chânt eu cysylltu gyda marwolaeth neu'r bodau ysbrydol a geir mewn crefyddau eraill. Mae rhai diwylliannau'n credu eu bônt yn gofalu neu'n gwarchod pobl unigol.

Llun olew gan Carl Heinrich Bloch yn dangos Iesu Grist yng Ngardd Gesthemane gydag Angel yn ei gysuro.
Yn Islam, Mikail (Mihangel) yw'r archangel sy'n cael ei anfon gan Allah i ddatgelu'r Coran i'r Proffwyd Mohamed.
Daw'r gair o'r Hen Roeg ἄγγελος (angelos), "negesydd".
Angel y NadoligGolygu
Cysylltir y Nadolig hefyd gydag angylion.
Mewn llenyddiaethGolygu
Yn ogystal a'r Beibl, ceir sawl cyfeiriad at angylion. Ceir cwpled o englyn arbennig am y llais dynol:
- Gwerthai angel ei delyn
- Ym mhalas Duw am lais dyn.