Percy Enderbie

hanesydd a hynafiaethydd

Hanesydd Seisnig oedd Percy Enderbie (tua 1601 - tua 1670).[1] Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y gyfrol Cambria triumphans.

Percy Enderbie
Ganwyd1601, c. 1606 Edit this on Wikidata
Bu farw1670 Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, hynafiaethydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Enderbie yn Lloegr yn y flwyddyn 1601 (yn ôl pob tebyg). Daeth i gysylltiad â theulu'r Morganiaid o blwyf Llantarnam, Sir Fynwy. Priododd ag un o ferched y Morganiaid ac ymsefydlodd gyda hi yng Nghymru.[1]

Bu'n byw yng Nghymru am lawer o flynyddoedd a llwyddodd i ddysgu Cymraeg. Un o'i gymhellion am hynny oedd medru darllen llenyddiaeth Gymraeg ac am hanes Cymru. Daeth i edmygu'r genedl yn fawr oherwydd ei thras hynafol a'i gwrthsafiad hir yn yr Oesoedd Canol yn erbyn grym a gallu teyrnas Lloegr. Ffrwyth bennaf ei ddiddordeb yn hanes Cymru oedd ei gyfrol hanes Cambria triumphans (sef "Cymru Fuddugoliaethus"), a ysgrifennwyd yn Llantarnam ac sy'n ceisio dangos bod y Stuartiaid yn ddisgynyddion i frenhinoedd y Brythoniaid a'r Cymry.[1]

Bu farw o gwmpas 1670.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).

Dolen allanol golygu