Peryn Clement-Evans

clarinetydd

Clarinetydd a chyfarwyddwr artistig y grŵp Ensemble Cymru yw Peryn Clement-Evans (ganwyd yn Lerpwl 1968).

Buodd yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion, ac wedyn yn Conservatorium voor Muziek, Rotterdam, gyda’r unawdydd rhyngwladol o Wlad Belg, Walter Boeykens.

Perfformiodd fel prif glarinetydd gyda nifer o gerddorfeydd gan gynnwys Northern Ballet, Manchester Camerata, Orquesta Sinfonica de Galicia a London City Opera.

Perfformiodd am y tro cyntaf nifer o ddarnau i’r clarinét a’r piano gan gyfansoddwyr o Gymru, fel Alun Hoddinott, Jeffrey Lewis, Christopher Painter a John Metcalf. Yn 2008 cafodd Wobr Leo Abse and Cohen gan Urdd Cerddoriaeth Cymru am ei wasanaeth i gerddoriaeth.