Alun Hoddinott
Un o brif gyfansoddwyr Cymru yn ail hanner yr 20g oedd Alun Hoddinott (11 Awst 1929 – 12 Mawrth 2008) ac un o’r ychydig i ennill bri rhyngwladol.
Alun Hoddinott | |
---|---|
Ganwyd | 11 Awst 1929 Caerffili |
Bu farw | 12 Mawrth 2008 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Adnabyddus am | Piano Concerto, Concerto ar Gyfer y Delyn, Concerto Rhif 2 ar Gyfer y Piano, Concerto ar Gyfer y Clarinet |
Arddull | opera, symffoni, cerddoriaeth glasurol |
Gwobr/au | CBE |
Hanes
golyguWedi’i eni ym Margoed, dysgodd chwarae’r ffidil a’r fiola yn blentyn ac aeth i Ysgol Ramadeg Tregŵyr gan elwa o’r traddodiad cerddorol cryf yno dan Cynwyd Watkins. Yn 1946 bu’n aelod o gwrs cyntaf Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd gan raddio yn 1949. Bu’n astudio cyfansoddi yn breifat yn Llundain hefyd, gydag Arthur Benjamin.
Yn 1951 fe’i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yno y bu hyd 1959 pan ymaelododd ag adran gerdd Prifysgol Caerdydd gan gael ei ddyrchafu’n Athro a phennaeth yr adran yn 1967. Yr un flwyddyn sefydlodd Ŵyl Cerddoriaeth yr Ugeinfed Ganrif yng Nghaerdydd gyda’i gyfaill, y pianydd athrylithgar John Ogdon (1937–89), ac am ugain mlynedd a mwy Hoddinott oedd yn llywio bywyd cerddorol y brifddinas i bob pwrpas; roedd ei ddylanwad yn allweddol hefyd yn y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), Gŵyl Llandaf a Chyngor y Celfyddydau. Wedi ymddeol o bob cyfrifoldeb swyddogol erbyn 1989 gallodd ganolbwyntio ar gyfansoddi gan ddychwelyd i’w gynefin yn 1997 ac ymgartrefu yn y Crwys ar benrhyn Gŵyr. Cwblhaodd ei waith olaf, Taliesin, yn 2007.
Yn ei gerddoriaeth gynharaf dengys Hoddinott ddylanwad naturiol prif gyfansoddwyr Seisnig ei gyfnod, megis Vaughan Williams, Walton a Berkeley, ond ymwybyddiaeth hefyd o neo-glasuriaeth gyfandirol Hindemith, Bartók a Stravinsky. Roedd ganddo dechneg ystwyth o’r dechrau a chlywir tinc personol hyd yn oed yn y gwaith cyntaf o’i eiddo sy’n cael ei berfformio’n rheolaidd, y Concerto Clarinet Op. 3 (1950), a ddaeth i sylw cenedlaethol yng Ngŵyl Cheltenham yn 1953, gyda Gervase de Peyer yn unawdydd a John Barbirolli yn arwain Cerddorfa Hallé, ac a oedd wedi’i ddarlledu eisoes gan y BBC o Gaerdydd yn 1951 gyda Jack Brymer yn unawdydd. Datblygodd enw Hoddinott yn gyflym a thrwy ennill cytuneb fel cyfansoddwr ‘preswyl’ i Wasg Prifysgol Rhydychen daeth yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth. Erbyn y Concerto Telyn Op. 11, a berfformiodd Osian Ellis yng Ngŵyl Cheltenham 1958, roedd ei arddull wedi datblygu’n rhyfeddol o gyflym trwy hepgor yr elfennau traddodiadol eu natur a chan ddatblygu ieithwedd gliriach a thynnach sy’n fwy personol a modernaidd ei mynegiant.
Er i’w Symffoni Gyntaf Op. 7 gael ei pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1955 gan Gerddorfa Philharmonig Frenhinol Lerpwl, o’r tu hwnt i Gymru y daeth y comisiynau a’r ysgogiad ar gyfer y mwyafrif o lwyddiannau cerddorfaol pwysig Hoddinott rhwng 1959 ac 1973. Cyfansoddodd bedair symffoni bellach ar gyfer cerddorfeydd y BBC a’r Hallé a’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol (RPO), ynghyd â nifer o ddarnau cerddorfaol sylweddol – Variants, Fioriture; maent yn dangos disgleirdeb a chywreinrwydd wrth ymdrin â’r gerddorfa a oedd yn unigryw yn hanes cerddoriaeth Cymru ar y pryd ond a oedd hefyd yn eithriadol ymysg cyfansoddwyr Prydeinig y cyfnod. Ochr yn ochr â’r datblygiad ieithyddol a strwythurol gymhleth a amlygir yn y gweithiau hyn, dangosodd Hoddinott hefyd fod ganddo’r ddawn i gyfansoddi darnau ysgafnach megis y Dawnsiau Cymreig (1959 ac 1966) a Dawnsiau’r Arwisgo (1969), sy’n llwyddo i greu ysbryd Cymreig trwy efelychu patrymau a rhythmau cerddoriaeth werin Cymru heb eu dyfynnu’n uniongyrchol. Roedd wedi meistroli pob genre cerddorol posibl erbyn dechrau’r 1970au, ac eithrio opera – ac roedd hynny hefyd i ddod.
Ac yntau wedi dilyn datblygiad WNO yng Nghaerdydd ers sefydlu’r cwmni yn 1946, roedd hi’n naturiol i Hoddinott droi ei olygon at y ffurf fel cyfansoddwr ac yn 1974 perfformiwyd ei opera gyntaf, The Beach of Falesá, i libreto gan Gwyn Jones yn seiliedig ar stori fer gan Robert Louis Stevenson. Roedd rhan ganolog yn yr opera i’r bariton Geraint Evans a dyma’r opera gyflawn gyntaf i’w chomisiynu yn benodol gan WNO. Yn y degawd dilynol ymserchodd Hoddinott fwyfwy yn y ffurf a chyfansoddodd bedair opera arall cyn 1981 – dwy opera un-act ar gyfer teledu, The Magician (1976) a The Rajah’s Diamond (1979), ac un i gynnwys plant yng Ngŵyl Abergwaun 1977, What the Old Man Does is Always Right, ill tair yn cynnwys rhannau eto i Geraint Evans. Opera dair-act yw The Trumpet Major Op. 103 (1981) i libreto gan Myfanwy Piper (awdur libreto’r ddwy opera flaenorol hefyd), yn seiliedig ar nofel Thomas Hardy o’r un enw; fe’i cyfansoddwyd ar gyfer adnoddau Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion ond fe’i perfformiwyd hefyd yng Nghaerdydd. Nid tan 1999 y cyfansoddodd ei opera olaf, Tower Op. 170, i libreto gan John Owen, yn adrodd hanes prynu glofa’r Tŵr gan Tyrone O’Sullivan a’i weithwyr, a hynny mewn arddull opera-ddogfen i gwmni Opera Box o Abertawe.
Prin fod unrhyw gyfansoddwr clasurol Cymraeg arall wedi cynhyrchu catalog mor faith â Hoddinott gan lwyddo i gynnal safon gyson aruchel drwyddi draw. Un o’i hoff gyfryngau oedd cerddoriaeth siambr a cheir 13 sonata i’r piano, er enghraifft, yn rhedeg fel gwythïen loyw ar hyd ei yrfa o 1959 hyd 2003. Er nad oedd yn bianydd ei hun, roedd ganddo amgyffrediad arbennig o natur cynhenid offeryn ac mae ei sonatas niferus i’r ffliwt, y clarinet, y piano a’r soddgrwth ymysg offerynnau eraill yn amlygu hyn; felly hefyd y concerti sy’n cwmpasu bron pob offeryn cerddorfaol. Câi ei ysbrydoli’n aml gan lenyddiaeth neu gelfyddyd weledol, ac roedd ganddo allu arbennig i gyfleu lliw ac awyrgylch mewn cerddoriaeth. Mae The Heaventree of Stars Op. 102 (1980), i ffidil a cherddorfa, yn un o’r esiamplau gorau o’i ddawn delynegol lesmeiriol, gyda’r teitl yn deillio o waith James Joyce, fel sy’n wir hefyd am The Sun, the great luminary of the universe Op. 76 (1970), i gerddorfa. Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd y gwahoddiad i gyfansoddi gwaith ar gyfer y chwaraewr soddgrwth o Rwsia, Mstislav Rostropovich, a pherfformiwyd Noctis Equi Op. 132 gyda Cherddorfa Symffoni Llundain yn y Barbican i ddathlu pen-blwydd y cyfansoddwr yn 60 yn 1989.
Nid oedd Hoddinott yn or-hoff o unrhyw awgrym mai cyfansoddwr ‘Cymreig’ yn benodol ydoedd; cyfeiriai ato’i hun yn syml fel ‘cyfansoddwr sy’n byw yng Nghymru’. Ei ddelfryd gerddorol ar hyd ei oes oedd dwyn y Cymry i ymwybyddiaeth ehangach o’r gorau yn rhyngwladol gan godi safon cerddoriaeth Gymreig hefyd er mwyn teilyngu sylw cyfartal. Datblygodd berthynas agos gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi iddi dyfu i’w llawn faint a chyfansoddodd ei symffonïau 6,7,9 a 10 ar ei chyfer, ynghyd â gweithiau meistrolgar megis Star Children, Lizard a Taliesin. Cyn iddo farw cafodd wybod am y penderfyniad i alw cartref newydd y Gerddorfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn Neuadd Hoddinott a dyma gofeb berffaith bellach i gawr o gyfansoddwr Cymreig.
Gweithiau cerddorol
golygu- Clarinet Concerto (1954)
- Concerto for Piano, Winds and Percussion, op. 19 (1961)
- Concerto rhif 2, op. 21 (1960)
- Concerto rhif 3, op. 44 (1966)
- The Beach of Falesa (opera)