Peswch

(Ailgyfeiriad o Pesychu)

Sŵn (neu synau) sydyn a chras a wneir gan berson (ac weithiau anifail), un ar ôl y llall, yw peswch. Mae'r gair hefyd yn disgrifio'r adwaith amddiffynnol gan y corff i feicrobau, llwch, bwyd ayb wedi mynd i mewn i'r ysgyfaint yn hytrach na'r oesoffagws. Dyma ddull y corff i'w gwaredu. Mae tair rhan i'r weithred o besychu: anadliad mewnol, anadliad allanol gyda'r glotis wedi'i gau ac yn olaf, gollwng yr anadl yn sydyn o'r ysgyfaint gyda'r glotis wedi'i agor.[1] Mae peswch yn medru bod yn wirfoddol neu'n anwirfoddol. Gall heintiau ymledu drwy beswch.

Peswch
Enghraifft o'r canlynolsymptom type Edit this on Wikidata
Matharwydd meddygol, respiratory signs and symptoms Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bachgen yn peswch oherwydd yr afiechyd pertussis
Moddion Peswch

Gweithred o fewn y Tracea yw pesychu lle mae cyhyrau'r fron yn cyfangu i wneud y nwyon adael yr ysgyfaint efo grym cryf. Mae peswch yn fwy tebygol o ddigwydd pan mae rhywun yn sâl. Mae peswch hefyd yn amlwg yn ystod annwyd yn enwedig pan fo llysnafedd (mwcws) yn gorchuddio'r celloedd yn y gwddf sy'n cael gwared â llwch a bacteria sydd yn cael ei anadlu mewn. Digwydd yn aml mewn aer sydd wedi'i halogi a phersonau sy'n ysmygu.

Meddygaeth amgen

golygu

Tybir fod y llysiau canlynol yn gallu lliniaru tipyn ar yr anhwylder o besychu: teim, dail troed yr ebol ac erfinen.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Prevalence, pathogenesis, and causes of chronic cough". Lancet 371 (9621): 1364–1374. April 2008. doi:10.1016/S0140-6736(08)60595-4. PMID 18424325.