Dail troed yr ebol

Dail troed yr ebol
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Tussilago
Rhywogaeth: T. farfara
Enw deuenwol
Tussilago farfara
L.

Llysieuyn bychan a dyfir mewn gardd neu yn rhydd mewn gwrychoedd ydy dail troed yr ebol neu carn yr ebol (Lladin: Tussilago farfara; Saesneg: Coltsfoot). Ystyr y gair Lladin Tussilago ydy 'Lleihau pesychu' ac mae wedi cael ei ddefnyddio ers canrifoedd at anhwylderau'n ymwneud â'r ysgyfaint, anhwylderau megis asma neu beswch. O ran pryd a gwedd, maen nhw'n edrych yn debyg iawn i ddant y llew. Mae'r llysieuyn rhwng 10 cm a 30 cm o ran maint.

Cynhyrchir melysion ar gyfer dolur gwddw wedi ei wneud gan Stockley's Sweets of Oswaldtwistle gyda dail carn yr ebol - o'r enw "Coltsfoot Rock".[1]

Rhinweddau meddygol golygu

Gellir casglu'r dail yn y gwanwyn a'u berwi mewn peint o ddŵr mewn sosban fawr heb glawr nes y daw hyd at hanner y dŵr. Wedi ei hidlo ac ychwanegu mêl a lemwn ynddo gellir ei yfed deirgwaith y dydd bob yn llwyaid.[2] Dywedir hefyd fod y blodyn ei hun yn medru gwella anhwylderau'r croen.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan y Cwmni Stockley's Sweets of Oswaldtwistle". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-21. Cyrchwyd 2009-04-10.
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato