Teim
Llysieuyn a pherlysieuyn blodeuol ydy Teim (Lladin: Thymus vulgaris a rhywogaethau eraill o'r genws Thymus; Sa: Thyme) a dyfir mewn gerddi drwy Ewrop a'r Dwyrain Canol i'w ddefnyddio yn y gegin ac er mwyn ei briodweddau iachusol. Mae ganddo flas cryf (heb fod yn llethol chwaith) oherwydd ei fod yn cynnwys cryn dipyn o theimol (thymol). Fe'i defnyddiwyd gan y Rhufeiniaid a'r Eifftiaid a thrwy'r Oesoedd Canol fel persawr ar y corff, i awyru ystafelloedd a hyd yn oed mewn gobennydd i atal hunllefau.[1].
Coginio
golyguFe'i defnyddir ynghyd â dail 'bae' a phersli mewn coginio Ffrengig i wneud bouquet garni a herbes de Provence. Caiff ei werthu'n ffres (blas cryfach) ac yn sych (haws ei storio).
Rhinweddau meddygol
golyguDywedir ei fod yn dda at beswch, y pâs a rhyndod.[2] Mae olew Thymus vulgaris yn cynnwys 20 - 54% o theimws sy'n wrthseptig gwych (dyma ydy cynnwys y glanhawr ceg Listerine).[3][4] Mae'r te yn medru cael ei ddefnyddio hefyd i wella dolur gwddw drwy ei oeri a'i garglo deirgwaith y dydd.
Llenyddiaeth
golyguCeir ambell gyfeiriad at teim mewn llenyddiaeth gan gynnwys yr hen bennill:
- Ar lan y môr mae carreg wastad,
- Lle bum yn siarad gair a’m cariad,
- O amgylch hon mae teim yn tyfu
- Ac ambell sbrigyn o rosmari
Dyma drosiad Gwyn Thomas o Midsummer Night’s Dream (Breuddwyd Nos Wyl Ifan) gan Shakespeare a chyfeiriad at y teim (Bwletin 30):
- Mi wn am lain lle tyf y teim yn wyrdd,
- A llysiau'r parlys, fioledau fyrdd,
- A glwys yn do i'r fan mae gwyddfid pêr,
- Miaren Mair a rhosys dan y sêr.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Huxley, A., ed. (1992). New RHS Dictionary of Gardening. Macmillan.
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
- ↑ Thymus Vulgaris. PDR for Herbal Medicine. Montvale, NJ: Medical Economics Company. Tudalen 1184.
- ↑ Pierce, Andrea. 1999. American Pharmaceutical Association Practical Guide to Natural Medicines. Efrog Newydd: Stonesong Press. Tudalen 338-340.
- ↑ Bwletin Llên Natur rhif 31