Pete Docter

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Bloomington yn 1968

Mae Peter Docter (ganed 10 Awst 1968) yn gyfarwyddwr ffilm Americanaidd o Bloomington, Minnesota. Mae'n fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo'r ffilm Pixar, Monsters, Inc.. Graddiodd o Ysgol Uwchradd John F. Kennedy yn Bloomington. Mae ef hefyd yn gyn-aelod o'r Mentor Connection.

Pete Docter
Ganwyd9 Hydref 1968 Edit this on Wikidata
Bloomington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Minnesota
  • Sefydliad Celf California
  • Bloomington Kennedy High School
  • MacPhail Center for Music Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, animeiddiwr, actor llais, cynhyrchydd gweithredol, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Annie, Gwobr yr Academi am yr Animeiddiad Ffilm Gorau, Gwobr yr Academi am yr Animeiddiad Ffilm Gorau, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Ffurf Hir Edit this on Wikidata
llofnod

Cyn ymuno â Pixar, crëodd Pete Docter dri animeiddiad na wnaed ar gyfrifiadur, sef Next Door, Palm Springs, a Winter.

Mae Docter wedi bod yn rhan allweddol o nifer o weithiau mwyaf poblogaidd Stiwdios Pixar, gan gynnwys Toy Story, Toy Story 2, A Bugs Life a Monsters, Inc.. Cyfrannodd i'r ffilmiau animeiddiedig hyn fel yr awdur ar y cyd, a gweithiodd gyda phobl fel John Lasseter, Andrew Stanton a Joe Ranft. Darparodd y llais hefyd ar gyfer Mr. Incredible yn cartŵn byr "Mr. Incredible and Pals" a ryddhawyd ar y DVD The Incredibles. Derbyniodd yr holl ffilmiau hyn feirniadaethau clodwiw gan ennill gwobrau niferus.

Yn 2004, gofynnodd John Lasseter iddo gyfarwyddo'r fersiwn Saesneg o Howl's Moving Castle. Gwrthododd Lasseter y prosiect am ei fod yn rhy brysur yn creu'r ffilm Cars.

Yn fwyaf diweddar, cyfarwyddodd Docter Up, a ryddhawyd ar y 29ain o Fai, 2009.

Ffilmograffiaeth Pixar golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.