Petr Chelčický
Arweinydd Cristnogol a thraethodydd crefyddol Tsieceg oedd Petr Chelčický (tua 1390 – tua 1460) a arddelai heddychiaeth yn ystod y Diwygiad Bohemaidd.
Petr Chelčický | |
---|---|
Darluniad o Petr Chelčický yn ymddiddan â meistri Prifysgol Prag. | |
Ganwyd | c. 1390 Chelčice |
Galwedigaeth | llenor, athronydd, diwinydd |
Ganed ef yn Chelčic, yn ne Teyrnas Bohemia, yn aelod o'r bonedd. Dylanwadwyd arno'n gryf gan feddwl y Sais John Wycliffe, a'r diwygiwr Jan Hus, a ferthyrwyd ym 1415. Ar y cychwyn, ymlynodd Chelčický â changen radicalaidd yr Husiaid, y Taboriaid, ond trodd ei gefn ar drais y rheiny gan ddadlau nad oedd yn bosib i Gristion ladd yn enw Duw. Yn ei ysgrifeniadau, condemniodd y gosb eithaf a rhyfela, a gwrthwynebodd fasnach, llwon, a bywyd trefol. Arddelai ffurf gyntefig ac egalitaraidd ar Gristnogaeth, yn groes i bob math o rym ac awdurdod seciwlar. Credodd Chelčický i gymdeithas o'r fath fodoli yng nghyfnod yr Eglwys Fore, cyn teyrnasiad Cystennin Fawr.
Ysgrifennodd Chelčicky ryw 50 o draethodau ar bynciau crefyddol, pob un yn yr iaith Tsieceg. Ei brif weithiau yw O boji duchovním ("Rhyfela Ysbrydol"), O trojím lidu ("Teir-Raniad Cymdeithas"), Sieť viery pravé ("Rhwyd y Wir Ffydd"), a Postilla (casgliad o'i bregethau). Sefydlwyd Brawdoliaeth Chelčice ar sail ei ddysgeidiaeth, ac ym 1457 yn Krunwald datblygodd yr honno yn y Frawdoliaeth Fohemaidd, neu Undod y Brawdolion, sef yr Eglwys Forafaidd bellach. Bu farw Petr Chelčický yn ei dref enedigol, Chelčic, oddeutu 70 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Peter Chelčický. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2023.