Y Diwygiad Bohemaidd

Mudiad Cristnogol dros ddiwygio'r Eglwys Gatholig a flodeuai yn Nheyrnas Bohemia yn y 15g a'r 16g oedd y Diwygiad Bohemaidd neu'r Diwygiad Tsiecaidd[1] a ysgogwyd yn bennaf gan ddysgeidiaeth yr offeiriad Jan Hus (tua 1370–1415). Prif yriedydd y diwygiad oedd mudiad yr Husiaid, ac o'r herwydd fe'i elwir weithiau yn y Diwygiad Husaidd. Fodd bynnag, cynhwysai hefyd arweinwyr ysbrydol, meddylwyr diwinyddol, a grwpiau crefyddol eraill megis Undod y Brawdolion, yn ogystal â'r sectau a ymrannodd oddi ar yr Husiaid cynnar gan gynnwys y Taboriaid a'r Orebiaid. Olynwyd y cyfnod hwn gan y Diwygiad Protestannaidd yn yr 16g, a chyda Waldensiaeth, Arnaldiaeth, a Lolardiaeth, ystyrir Husiaeth yn ffurf ar rag-Brotestaniaeth. Yn hanesyddiaeth Tsiecia, cyfeirir at y Diwygiad Bohemaidd weithiau fel "y Diwygiad Cyntaf".[2]

Y Diwygiad Bohemaidd
Darluniad o ferthyrdod Jan Hus o lawysgrif goliwiedig Codecs Jena (oddeutu 1500).

Datblygodd sawl tuedd diwinyddol dros hynt y Diwygiad Bohemaidd. Er iddo gynnwys sawl carfan a sect, rhennid ambell nodwedd ganddynt: cymun drwy'r ddwy elfen (Wtracaeth), gwrthwynebiad i gyfoeth a grym yr eglwys, pwyslais ar bregethu'r Beibl yn iaith y werin, a pherthynas ddigyfrwng rhwng dyn a'i Dduw.[3][4] Dylanwadwyd ar Jan Hus gan ddiwygwyr eraill, megis John Wycliffe yn Lloegr, i gondemnio llygredigaeth yn yr Eglwys Gatholig ac i gwestiynu grym ac awdurdod y Pab. Dadleuodd Hus, yn debyg i Wycliffe, dros gyfieithu'r Beibl i iaith y werin. Cafodd Hus ei esgymuno a fe'i gwahoddwyd i Gyngor Konstanz ym 1414 i amddiffyn ei daliadau. Fodd bynnag, cafodd ei arestio a'i gael yn euog o heresi, a fe'i llosgwyd wrth y stanc ym 1415. Ni rhoddwyd ei ferthyrdod daw ar ei ddilynwyr, a throdd yn radicalaidd fyth. Cychwynnodd Rhyfeloedd yr Husiaid ym 1419, a chyflwynodd pendefigion a chlerigwyr Husaidd Bedair Erthygl Prag ym 1420, gan fynnu'r hawl i bregethu'r Efengyl, i weini dwy elfen y cymun i leygwyr, i gosbi pechodau marwol, ac i ddiddymu grym seciwlar yr eglwys. Daeth y rhyfeloedd i ben yn sgil Cytundeb Basel ym 1434, a roddai oddefiadau i'r Husiaid heb ildio awdurdod yr Eglwys Gatholig ym Mohemia. Caniatawyd sefydlu Eglwys Bohemia, eglwys ddiwygiedig unigryw a arddelai Wtracaeth. Hon oedd yr eglwys genedlaethol gyntaf yn hanes Cristnogaeth y Gorllewin a oedd ar wahân i awdurdod Eglwys Rhufain.[1]

Bu'r Diwygiad Bohemaidd yn annibynnol ar y diwygiadau Protestannaidd yn yr Almaen a'r Swistir yn yr 16g, er i nifer o Wtracyddion Tsiecaidd ddod dan ddylanwad Lutheriaeth. Daeth y Diwygiad Bohemaidd i ben yn sgil Gwrthryfel Bohemia ym 1620, a sbardunodd yr Ymerawdwr Ferdinand II i orfodi Catholigiaeth Rufeinig ar holl drigolion y deyrnas.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Atwood, Craig D. "Czech Reformation and Hussite Revolution". www.oxfordbibliographies.com. Oxford Bibliographies. Cyrchwyd 10 January 2016.
  2. Morée, Peter C. A. (2011). "Česká reformace u nás v cizině". www.christnet.eu (yn Tsieceg). Cyrchwyd 8 September 2014.
  3. Soukup, Miroslav (2005). "Cesta k české reformaci" (PDF) (yn Tsieceg). Ústí nad Labem. Cyrchwyd 7 September 2014.
  4. "Turistická cesta valdenské a české reformace" (PDF) (yn Tsieceg). Veritas. 2005. Cyrchwyd 7 September 2014.