Philip Seymour Hoffman
Actor a chyfarwyddwr ffilm a llwyfan o'r Unol Daleithiau oedd Philip Seymour Hoffman (23 Gorffennaf 1967 – 2 Chwefror 2014).
Philip Seymour Hoffman | |
---|---|
Ganwyd | 23 Gorffennaf 1967 Fairport |
Bu farw | 2 Chwefror 2014 o gorddos o gyffuriau Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llais, actor cymeriad, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor, cyfarwyddwr theatr |
Tad | Gordon Hoffman |
Mam | Marilyn O'Connor |
Partner | Mimi O'Donnell |
Plant | Cooper Hoffman |
Gwobr/au | Drama Desk Award for Outstanding Director of a Play, Drama Desk Award for Outstanding Director of a Play, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Golden Globes, Volpi Cup for Best Actor, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan |
Dechreuodd Hoffman ei yrfa actio proffesiynol ar y teledu ym 1991 a'r flwyddyn olynol dechreuodd actio mewn ffilmiau. Daeth yn adnabyddus yn sgîl yr ystod eang o gymeriadau a actiodd mewn rôl gefnogol mewn ffilmiau, a bu'n llwyddiannus ym myd y theatr hefyd. Cafodd ei enwebu am Wobr Tony am ei berfformiad yn True West (2000) a Long Day's Journey into Night (2003).
Enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau, Gwobr BAFTA am yr Actor Gorau mewn Prif Rôl, Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Ffilm Ddrama a Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actor Gwrywaidd mewn Prif Rôl am ei berfformiad fel Truman Capote yn Capote (2005). Canolmolwyd ei weithiau nesaf hefyd sef The Savages (2007) a Charlie Wilson's War (2007), ac fe'i enwebwyd am nifer o wobrau actio am ei waith yn y ffilm Doubt (2008).