Bardd yn yr iaith Eingl-Normaneg oedd Philip de Thaun a flodeuai o'r 1110au i'r 1130au. Mae'n bosib iddo hanu o deulu arglwyddi Thaun, ger Caen yn Normandi, a symudodd i Loegr yn niwedd y 11g gyda'i ewythr Hunfrei.

Philip de Thaun
Ganwyd1100 Edit this on Wikidata
Bu farwUnknown Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd12 g Edit this on Wikidata

Ysgrifennodd ei waith cyntaf, Cumpoz neu Liber de creaturis, rhwng 1113 a 1119. Cyfansoddai'r Cumpoz mewn cwpledi chwesill odledig, ac mae'n gymorth i glerigwyr gyfrifo'r gwyliau symudol ym mlwyddyn yr eglwys. Ymddengys taw Beda, William de Conches, a Chilperic o St Gall oedd ei brif ffynonellau. Rhwng 1121 a 1135, Philip oedd awdur Li bestiaire, y cyfieithiad cyntaf sy'n goroesi o'r bwystori Lladin Physiologus yn yr iaith Ffrangeg neu Normaneg. Cyflwynodd y gwaith i'r Frenhines Adeliza o Louvain, gwraig Harri I, brenin Lloegr. Cyfansoddai mewn cwpledi chwesill odledig ac eithrio'r 303 o linellau wythsill ar ddiwedd y gerdd. Mae'n cynnwys rhagymadrodd, 35 o benodau am anifeiliaid, tair pennod am gerrig gwerthfawr, a diweddglo.[1]

Priodolir hefyd iddo drosi'r Sibylla Tiburtina yn gerdd chwesill gyda deunydd ychwanegol o'r Libellus de Antichristo gan Adso o Montier-en-Der. Un lawysgrif o'r gwaith sydd yn goroesi, gyda'r teitl Le livre de Sibile (tua 1239), er nad yw enw Philip yn ymddangos ynddi.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Jeanette Beer, "Thaun, Philip de (fl. 1113x19–1121x35), Anglo-Norman poet", Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd ar 4 Mawrth 2019.