Beda
mynach a sant Seisnig (672-735)
Hanesydd cynnar, mynach a diwinydd o Sais oedd Beda (Saesneg Bede: c. 673 - 735), a aned ger Wearmouth, Durham. Cyfeirir ato'n aml fel "Yr Hybarch Beda" (The Venerable Bede).
Beda | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 672 ![]() Jarrow ![]() |
Bu farw | 735 ![]() Jarrow ![]() |
Dinasyddiaeth | Northumbria ![]() |
Galwedigaeth | hagiograffydd, bardd, hanesydd eglwysig, cyfieithydd, diwinydd, ysgrifennwr, cyfieithydd y Beibl, hanesydd, emynydd ![]() |
Adnabyddus am | Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum ![]() |
Dydd gŵyl | 25 Mai ![]() |
Mae ei gyfrol yn yr iaith Ladin Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes cynnar gwledydd Prydain, er gwaethaf rhagfarn amlwg yr awdur yn erbyn y Brythoniaid. Cafodd ei gyfieithu i Hen Saesneg yn ystod teyrnasiad y brenin Alfred.
Roedd yn ysgolhaig amryddawn hyddysg yn Lladin a Groeg ac yn gyfarwydd â'r Hebraeg. Ymddiddorai hefyd mewn llenyddiaeth glasurol, meddygaeth, seryddiaeth a gramadeg.