Cricedwr prawf ac undydd, a chwaraewr rygbi o Awstralia oedd Phillip Joel Hughes (30 Tachwedd 198827 Tachwedd 2014).[1] Bu'n chwarae mewn gemau prawf dros Awstralia o 2010 hyd at ei farwolaeth cynamserol a ddigwyddodd o ganlyniad iddo gael ei daro yn ei wddf gan bêl ar y 25ain o Dachwedd.[2] Ar ddiwrnod ei farwolaeth cafwyd nifer o deyrngedau gan gynnwys Michael Clarke capten Tîm Criced Awstralia a chan y Prif Weinidog Tony Abbott.

Phillip Hughes
Ganwyd30 Tachwedd 1988 Edit this on Wikidata
Macksville Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 2014 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Macksville High School
  • Homebush Boys High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcricedwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm criced cenedlaethol Awstralia, New South Wales cricket team, Middlesex County Cricket Club, Hampshire County Cricket Club, Worcestershire County Cricket Club, South Australia cricket team, Adelaide Strikers, Mumbai Indians, Australia Under-19 cricket team Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonAwstralia Edit this on Wikidata

Hughes oedd y cricedwr cyntaf erioed i sgorio cant rhediad ddwywaith o'r bron; gwnaeth hynny yn Durban yn 2009 yn erbyn De Affrica.

Fe'i ganwyd ym Macksville, De Cymru Newydd, yn fab i ffermwr ac roedd ei fam yn Eidales.

Roedd hefyd yn aelod o dîm Caerwrangon, yn drydydd yn y rhestr fatio, a gyda chyfartaledd o 35 rhediad mewn gemau dosbarth cyntaf a 100 mewn gemau T20 ac 83 mewn criced ODI.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. www.couriermail.com.au;[dolen farw] Hughes was also a talented rugby league player who once played alongside Australian rugby league international Greg Inglis adalwyd 1 Rhagfyr 2014
  2. "Boofa goes from bushie to Blue". Fox Sports News. 22 Tachwedd 2007. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2007.
  3. "Hughes set for Worcestershire talks – Worcestershire – Counties – Domestic – News Archive". ECB. 16 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 9 Awst 2013.[dolen farw]