Phobos (mytholeg)
Un o feibion niferus y duw Ares ym mytholeg Roeg yw Phobos. Enwir un o loerenau'r blaned Mawrth ar ei ôl. Fel mab i dduw Rhyfel mae Phobos yn cynrychioli Arswyd, fel mae ei enw yn dangos (Groeg: Φόβος , "ofn"). Mae'n cael ei bortreadu fel dyn â phen llew.
Enghraifft o'r canlynol | duw Groeg |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd Phobos (lloeren).