Piast Gliwice
Mae Gliwicki Klub Sportowy Piast Gliwice ([ˈpʲast ɡlʲiˈvʲit͡sɛ], "Clwb Chwaraeon Piast Gliwice") neu Piast yn gyffredin ar lafar, yn glwb pêl-droed Pwyleg sydd chwarae yn ninas Gliwice yn nhalaith Silesia yn ne orllewin Gwlad Pwyl, dinas o rhyw 180,000 o drigolion oddeutu 25 km i'r gorllewin o Katowice mewn ardal ddiwydiannol. Enillont bencampwriaeth yr Ekstraklasa (Uwch Gynghrair Gwlad Pwyl) yn 2018-19 am y tro cyntaf yn eu hanes. Lliwiau'r clwb yw coch a glas ac mae'r arfbais yn arddangos eryr a thŵr.[1]
Enw llawn | Gliwicki Klub Sportowy Piast Gliwice | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | Piastunki (y Nyrsus) Szlachta (Uchelwyr) | |||
Sefydlwyd | 18 Mehefin 1945 | |||
Maes | Stadion Piast (sy'n dal: 10,037) | |||
Cadeirydd | Marek Kwiatek | |||
Rheolwr | Waldemar Fornalik | |||
Cynghrair | Ekstraklasa | |||
2022/23 | 5. (Ekstraklasa) | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
| ||||
Tymor cyfredol |
Hanes
golyguSefydlwyd y clwb ar 18 Mehefin 1945 gan Bwyliaid a oedd wedi cael eu gorfodi i adael eu tir yn yr hyn sydd heddiw yng ngorllewin Wcráin ond a oedd, cyn yr Ail Ryfel Byd yn rhan o Wlad Pwyl. Y clwb yw'r un gyntaf erioed i esgyn o'r 7fed adran yn system byramid pêl-droed Gwlad Pwyl i'r Uwch Gynghrair ac yna ennill yr hawll i gystadlu yn Ewrop.[2]
Bu'r clwb yn chwarae am 32 tymor yn yr ail adran Bwylaidd, cyn esgyn i'r Ekstraklasa am y tro cyntaf yn 2008. Llwyddodd y clwb i gyrraedd Cwpan Gwlad Pwyl ddwywaith (yn 1978 a 1983) gan golli ar y ddau achlysur.
Daw enw clwb o'r llinach Piast, teulu brenhinol oedd yn rheoli Gwlad Pwyl o flynyddoedd cyntaf annibyniaeth rhwng 970 ac 1360.
Newid Enw
golyguMae'r clwb wedi newid ei henw sawl gwaith ers ei sefydlu yn y mis gyntaf wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd:
- (18.06.1945) - KS Piast Gliwice
- (23.05.1946) - KSM Piast Gliwice
- (Medi/Tachwedd 1947) - ZKSM Piast Gliwice
- (05.03.1949) - ZS Metal Piast Gliwice (fusionado con el ZKSM Huta Łabędy, ZKS Walcownia Łabędy, RKS Jedność Rudziniec, *RKS PZS Gliwice y ZKS Silesia Gliwice)
- (01.11.1949) - ZKS Stal Gliwice
- (11.03.1951) - ZKS Stal GZUT Gliwice
- (15.03.1955) - ZKS Piast Gliwice
- (20.01.1957) - KS Piast Gliwice
- (01.01.1961) - SKS Piast Gliwice
- (15.03.1964) - GKS Piast Gliwice (fusionado con el GKS Gliwice y el KS Metal Gliwice)
- (17.10.1983) - MC-W GKS Piast Gliwice
- (12.09.1989) - CWKS Piast-Bumar Gliwice
- (1989) - Fusionado con el ZTS Łabędy (Gliwice)
- (1990) - CWKS Bumar-Piast Gliwice
- (04.04.1990) - KS Bumar Gliwice
- (11.05.1990) - KS Bumar Łabędy (Gliwice)
- (01.07.1990) - KS Bumar Gliwice
- (1991) - KS Piast-Bumar Gliwice
- (01.07.1992) - MC-W GKS Piast Gliwice
- (01.08.1995) - KS Bojków Gliwice (fusionado con el KS Bojków Gliwice)
- (15.09.1995) - KS Piast Bojków Gliwice
- (02.09.1996) - GKS Piast Gliwice
Anrhydedddau
golyguCystadlaethau Cenedlaethol
golygu- Ekstraklasa
- Pencampwyr (1): 2018–19
- I Liga (ail adran)
- Pencampwyr (1): 2011–12
- Cwpan Bêl-droed Gwlad Pwyl
- Ail (2): 1978, 1983
Ymddangosiadau yng nghystadlaethau UEFA
golyguTymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Adref | Oddi Cartref | Agregad |
---|---|---|---|---|---|---|
2013-14 | Cynghrair Europa UEFA | Clasificatoria 2 | FK Qarabağ | 2–2 | 1–2 | 3–4 (t.e.) |
2016–17 | Cynghrair Europa UEFA | Clasificatoria 2 | IFK Göteborg | 0–3 | 0–0 | 0–3 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://piast.gliwice.pl/historia/w-pigulce/
- ↑ http://www.sport.pl/sport/1,67926,5247205.html%7Ctítulo=Kapitan Piasta awansował z nim od B-klasy do ekstraklasy