Cethren sydd yn ffurfio wrth i ddŵr sy'n diferu rewi yw pibonwyen,[1] a elwir hefyd yn rhew bargod.[2]

Pibonwy ar goeden


Gaeaf 1813-14...From many buildings, icicles full 1 1⁄2 yard long were seen suspended. One fall of snow continued 48 hours incessantly, after the ground had been covered with a condensation, the result of [nearly] 4 weeks’ continued frost. A fair was kept on the Thames. This winter was long, but not remarkable for intensity of cold.[3]

Ar wahan i pibonwy, mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn rhestru cloÿn iâ a chloch iâ ar gyfer y nodwedd hynod hon. Mae’r gair pibonwy yn mynd yn ôl i gyfres yr `Oianau' yng Nghanu Myrddin yn yr 13ganrif:

Eiry hid impen clun. gan cun callet
Pibonvy imblev. blin wy russet

sef, o’i gyfieithu i’r iaith fodern, “Eira hyd ym mhen clun; gyda chwn NEU fleiddiaid y coedydd [yn gwmni]. Pibonwy mewn blew [= barf a gwallt]. Blin yw fy rhawd”.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  pibonwy. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Hydref 2014.
  2.  rhew. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Hydref 2014.
  3. Diaries of Walter Davies (Gwallter Mechain) for various periods from 1822–1845 (Gyda diolch i Cerys Jones, Myfyrwraig ôl-radd, Prifysgol Aberystwyth)
  4. Gyda diolch i’r Athro Gwyn Thomas am y cyfieithiad
  Eginyn erthygl sydd uchod am y tywydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.