Pico d'Aneto
Mynydd uchaf y Pyreneau yw Pico d'Aneto (Ffrangeg: Néthou). Saif yn nhalaith Huesca yng ngogledd Aragon yn Sbaen.
![]() | |
Math |
mynydd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Macizo de la Maladeta ![]() |
Sir |
Benasque ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
3,404 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
42.630992°N 0.656686°E ![]() |
Amlygrwydd |
2,812 metr ![]() |
Cadwyn fynydd |
Pyreneau ![]() |
![]() | |
Deunydd |
gwenithfaen ![]() |
Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 20 Gorffennaf, 1842, gan Platon de Tchihatcheff, cyn-swyddog yn y fyddin Rwsaidd, gyda Pierre Sanio de Luz, Luchonnais Bernard Arrazau a Pierre Redonnet fel tywysyddion, ac Albert de Franqueville, botanegwr Ffrengig, a'i dywysydd, Jean Sors. Gadawsant yr Hospice de France ar 18 Gorffennaf a threulio dwy noson ar y mynydd.
Dringwyd y mynydd yn y gaeaf am y tro cyntaf ar 1 Mawrth 1878 gan Roger de Monts, B. Courrèges, a B. a V. Paget.