Pier Llandudno
Mae Pier Llandudno yn bier yn Llandudno, Sir Conwy. Mae’n adeilad rhestredig (Gradd II) ac yn pier hiraf Cymru; mae’n 700 metr (2295 troedfedd) o hyd. Mae glanfa ddŵr dwfn ar ben y pier, sydd wedi cael ei hail-adeiladu pedair gwaith erbyn hyn, y tro diwethaf yn 2012. Defnyddir y glanfa yn achlysirol gan Gwmni Pacedlong Stêm Ynys Manaw ac yn achlysurol gan PS Waverley ac MV Balmoral.
Math | pier |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llandudno |
Sir | Conwy |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 53.3293°N 3.82803°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cynlluniwyd y pier gan James Brunlees a McKerrow, ac adeiladwyd y pier rhwng 1876 a 1878, yn defnyddio trawstiau haearn gyrru ar golofnau haearn bwrw. Adeiladwyd pafiliwn ym 1905[1] a defnyddiwyd y pafiliwn i gynnal cyngherddau, a pherfformiodd Syr Malcolm Sargent, George Formby, Ted Ray, Semprini, Petula Clark, Arthur Askey, Bill Maynard, Jimmy Edwards, Russ Conway, y Chwiorydd Beverley a Cliff Richard yno, ymysg eraill. Dinistriwyd y pafiliwn gan dân ym 1994.[2]
Cyfeiriadau
golygu