Planed Plant
Gwasanaeth S4C yn yr iaith Gymraeg i blant o'r oedran 6-14 oedd Planed Plant. Cafodd ei darlledu am y tro cyntaf 1 Tachwedd 1982.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Genre | cyfres deledu i blant |
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Roedd Planed Plant yn cynnwys nifer o animeiddiadau wedi'u cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, megis Tylwyth Od Timmy a Bywyd Cudd Sabrina. Serch hynny roedd ganddi ychydig o raglenni pur Cymraeg. Mewn arolwg barn ddiweddar i blant, darganfu S4C taw'r rhaglen fwyaf poblogaidd yw Oh Na! Y Morgans!.
Disodlwyd y gwasanaeth gan ddau arall: Cyw ar gyfer plant iau ar 23 Mehefin 2008, a Stwnsh ar gyfer y rhai hŷn ar 26 Ebrill 2010.
Rhestr rhaglenni
golygu- Clwb Winx
- Caffi Sali Mali
- SuperTed
- Siôn Blewyn Coch
- Sam Tân
- Tomos y Tanc
- Tair Slic!
- Popty
- Mosgito
- Tylwyth Od Timmy
- Beyblade