Siôn Blewyn Coch

Llwynog dychmygol yw Siôn Blewyn Coch. Fe ymddangosodd gyntaf mewn llyfrau Cymraeg i blant yn ystod tridegau'r ganrif ddiwethaf, sef Llyfr Mawr y Plant gan Jennie Thomas a J. O. Williams a'r cyfrolau eraill a'i dilynodd. Siân Slei Bach oedd enw ei wraig, ac roedd ganddynt saith o genawon bach, i gyd yn byw yn Twll Daear ar fferm Eban Jones a'i wraig Leusa. Byddai teulu llwglyd Siôn Blewyn Coch yn mentro yn aml er mwyn cael tamaid o fwyd o fferm Eban, a byddai Leusa ac yntau yn gwneud eu gorau i'w rhwystro ac yn wir i saethu Siôn a'i deulu, ond heb lwyddiant fel arfer.

Adeg Nadolig 1986 darlledodd S4C ffilm wedi'i hanimeiddio o'r enw Siôn Blewyn Coch, a oedd wedi'i seilio ar y straeon yn Llyfr Mawr y Plant. Bu'r ffilm yn llwyddiant ysgubol yn ieuenctid y sianel ac fe'i hailddarlledwyd droeon ers hynny ar adeg y Nadolig.

Eginyn erthygl sydd uchod am gymeriad llenyddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.