Cyfrol gan Aled Islwyn yw Plant y Dyfroedd a gyhoeddwyd yn 2016 gan Wasg Gomer. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[1]

Plant y Dyfroedd
AwdurAled Islwyn
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi03/08/2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781848517479
GenreFfuglen

Nofel gyhyrog a difyr gan un o brif awduron Cymru yn dilyn hanes y prifathro Oswyn Morris.

Adolygiad Cerian Arianrhod golygu

Yn ôl Cerian Arianrhod, Maestref ddychmygol yng Nghaerdydd yw'r Dyfroedd, a dyma ganolbwynt y nofel, mewn gwirionedd. Mae'n stori sy'n edrych i'r gorffennol ac i'r dyfodol, gan roi cipolwg i ni ar hanes yr ardal a ffawd rhai o'i thrigolion. Lle llwm yw'r Dyfroedd mewn sawl ystyr, lle nad yw gobeithion wastad yn cael eu gwireddu.

Fe fyddai disgrifiad moel o'r nofel yn awgrymu stori syml. Sôn mae'r gyfrol am Oswyn Morris, prifathro cyntaf Ysgol y Dyfroedd, ac am Rwth, sy'n paratoi cyfrol am hanes yr ysgol ar gyfer ei hanner canmlwyddiant. Ond fe fu raid i Oswyn Morris adael yr ysgol dan gwmwl, wedi cyfnod byr yn unig fel prifathro, ac mae yna anniddigrwydd a diffyg cyfeiriad ym mywyd Rwth. Oes yna wersi y gall Oswyn Morris eu dysgu i Rwth, a beth yw ei fwriadau wrth wneud hynny? Wrth i ni ddod i wybod mwy am fywydau'r ddau brif gymeriad fe ddaw mwy o gwestiynau nag o atebion i'r golwg.

Mae'r nofel yn blethiad o straeon am fywydau Oswyn Morris a Rwth, o hanesion sy'n cael eu hadrodd gan Oswyn am Ddyfroedd y gorffennol a hefyd o farddoniaeth. Er bod popeth yn cydblethu mae yna naws ychydig yn herciog i'r plethiad, rhywbeth sy'n cadw'r darllenydd ar bigau yn dyfalu beth ddaw nesaf.

Dywed Cerian ymhellach mai straeon Oswyn Morris am y Dyfroedd yw uchafbwyntiau'r nofel. Mae'r hanesion yn rhai amrywiol iawn, o'r ail 17g hyd at y 1950au, a phlant coll yn clymu pob un stori.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017