Llandysul
Tref fechan ar lan Afon Teifi yn ne Ceredigion yw Llandysul. Mae ganddi 2821 o drigolion, a 70% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001). Lleolir Gwasg Gomer, un o weisg a chyhoeddwyr mwyaf Cymru, yno. Gorwedd ar yr A486. Mae'r pentref hefyd yn boblogaidd ymysg canŵ-wyr a cherddwyr afon.
Math | cymuned, tref |
---|---|
Poblogaeth | 2,732, 2,539 |
Gefeilldref/i | Plogoneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6,671.35 ha |
Cyfesurynnau | 52.0411°N 4.3095°W |
Cod SYG | W04000376 |
Cod OS | SN4162340646 |
Cod post | SA44 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
- Am y pentref ym Mhowys, gweler Llandysul, Powys.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Hanes y pentref
golyguAdeilad hynaf y pentref ydy'r hen eglwys a adeiladwyd yn y 13g. Fodd bynnag, fe'i hadeiladwyd ar sylfeini hynafol a enwyd ar ôl Sant Tysul a sefydlodd yr eglwys wreiddiol yn y 6g. Roedd Sant Tysul yn fab i Corun a oedd yn fab i Ceredig ap Cunedda, a roddodd ei enw i'r deyrnas, sef enw presennol y sir sef Ceredigion. Roedd gan Ceredig fab arall hefyd, Sant, a oedd yn dad i nawddsant Cymru, Dewi Sant. O ganlyniad, roedd Dewi a Tysul yn gefndryd cyntaf.[3]
Arferwyd chwarae'r gêm y cnapan rhwng pentrefi Llandysul a Llanwenog. Y gôliau oedd drws eglwys Llandysul a drws eglwys Llanwenog chwe milltir i ffwrdd. O ganlyniad i or-yfed a thrais, ataliodd y Ficer Enoc James y gêm yn 1833.[4]
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Diwylliant a chymuned
golyguSefydlwyd Calon Tysul[8] ym mis Tachwedd 2017. Mae'r safle'n cynnwys pwll nofio 25m x 10m (Pwll Nofio Teifiside ynghynt sefydlwyd 1975 ac yna Canolfan Dŵr Llandysul) a Chanolfan Hamdden Llandysul (sefydlwyd 2003). Mae bwrdd ymddiriedolwyr gwirfoddol yn gyfrifol am lywodraethu'r ganolfan. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden ac addysgol yn digwydd yn y ganolfan, megis nofio, caiacio, partïon pen-blwydd i blant, Cynllun Ailgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol, dosbarthiadau ffitrwydd, badminton, tenis bwrdd, dringo a phêl-droed.
Pobl o Landysul
golygu- Christmas Evans (1766-1838), pregethwr
- Evan Pan Jones (1834-1922), awdur, gweinidog, golygydd a diwygiwr cymdeithasol
- Menna Elfyn (g. 1951), bardd, dramodydd
- Fflur Dafydd (g. 1978), bardd, awdures, cantores
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Hanes Llandysul a Phont Tyweli Archifwyd 2010-02-23 yn y Peiriant Wayback Gwefan LLandysul - Pont-Tyweli. Adalwyd ar 08-10-2010
- ↑ Bro Llandysul Gwefan Acen. Adalwyd ar 08-10-2010
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan
Trefi
Aberaeron · Aberteifi · Aberystwyth · Ceinewydd · Llanbedr Pont Steffan · Llandysul · Tregaron
Pentrefi
Aberarth · Aber-banc · Aber-ffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aber-porth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaen-porth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llandre · Llandyfrïog · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiw-llan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pont-rhyd-y-groes · Pontsiân · Post-mawr · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troed-yr-aur · Ysbyty Ystwyth · Ystradaeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen