Nofel Gymraeg wladgarol gan Gwyneth Vaughan yw Plant y Gorthrwm a gyhoeddwyd yn 1908 gan yr Educational Publishing Company, Caerdydd, Cymru.

Plant y Gorthrwm
AwdurGwyneth Vaughan
CyhoeddwrThe Educational Publishing Co.
GwladCymru
IaithCymraeg
GenreFfuglen

Sonia am yr effeithiau trychinebus ar gymuned fechan yng nghefn gwlad gogledd Cymru yn sgil Etholiad Cyffredinol 1868. Darlunnir un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru'r 19g.

Yr awdur golygu

Magwyd Gwyneth Vaughan rhwng 1852 a 1910 yn Nhalsarnau, Meirionnydd. Dangosodd yr hyn y gellid ei gyflawni gan ferch i felinydd. Trwy ei dyfalbarhad cafodd ei dyrchafu i brif lwyfannau ei chenedl: daeth yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 1895 a hi oedd y ferch gyntaf i areithio o'r Maen Llog yn 1900.

Argrafiadau golygu

Cyhoeddwyd y nofel wreiddiol yn 1908. Cafwyd argraffiad newydd diwygiedig gan Honno yn 2017.[1]


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017