Plas Brereton
Fila o'r 19eg ganrif ar gyffiniau Caernarfon, Gwynedd, yw Plas Brereton. Saif ar lannau Afon Menai o fewn stad o 11 acer sy'n cynnwys porthdy, bloc stablau, adeiladau llefrith, adeiladau eraill a doc preifat a thŷ ceidwad y doc. Adeiladwyd y tŷ tua 1820 ac roedd yn eiddo i deulu Uchel Siryf Sir Caernarfon, Thomas Turner a oedd yn Faer Caernarfon o 1846 i 1848. Roedd Turner yn asiant ar gyfer Stad y Faenol Roedd ganddo fusnes masnachwyr gwin, "Messrs Turner & Co." Mi oedd o hefyd yn Rheolwr Chwarel Dinorwig ac yn ystod ymweliad â'r chwarel, disgynnodd Thomas Turner dros rheiliau. Brifodd ei asgwrn cefn, ac arweiniodd hyn i'w farwolaeth yn y diwedd.
Math | fila |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.15611°N 4.25782°W |
Cod OS | SH 4912864492 |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Gwerthwyd Plas Brereton yn gyhoeddus yn 1896. Bryd hynny dywedwyd ei fod mewn sefyllfa dda, a byddai'n gwneud cartref da ar gyfer dyn o gefn gwlad sydd yn dymuno cael bywyd gwledig. Fe'i prynwyd gan Miss Turner am £8,270; rhoddodd ar werth unwaith eto ar ôl i'w gael ei wahanu mewn 11 uned gwahanol.
Datblygiadau diweddar
golyguYn 2008, rhoddwyd caniatâd cynllunio hefyd i Dowhill Developments Ltd, unwaith eto y syniad oedd i'w wneud mewn i westy bwtic gyda sba, campfa a phwll nofio. Yn 2013, gosodwyd yr ystâd ar werth trwy ocsiwn gyhoeddus a cafodd ei brynu am £591,146 gan ddatblygwyr o Lundain, Cabot Park Ltd.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) "Plas Brereton, Caernarfon"