Afon Menai

afon rhwng Ynys Môn a Gwynedd

Sianel dŵr hallt neu gulfor yng ngogledd-orllewin Cymru rhwng Ynys Môn ac Arfon (Gwynedd) ar y tir mawr yw Afon Menai. Ei hyd yw tua 14 milltir. Mae lled y Fenai yn amrywio o lai na chwarter milltir ger Porthaethwy, lle mae Pont Y Borth yn ei chroesi, a ger Llanfairpwll lle mae Pont Britannia yn ei chroesi, i tua 3 milltir a hanner yn ei phen gorllewinol. Yn y gorllewin ceir nifer o lagwnau bychain, Y Foryd ar y tir mawr a Thraeth Melynog ar dir Môn. I'r gogledd-ddwyrain o'r pontydd mae'r Fenai yn ymledu dros Draeth Lafan rhwng Penmon ac Ynys Seiriol yn y gogledd a Phenmaenmawr yn y de ac yn mynd yn rhan o Fae Conwy. Mae'r llanw yn rhedeg yn gyflym trwyddi weithiau ac yn gallu bod yn beryglus, yn arbennig yng nghyffiniau trobwll Pwll Ceris.

Afon Menai
Mathculfor Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1806°N 4.2333°W Edit this on Wikidata
Map
Pont Britania; ca. 1860

Ceir sawl tref a phentref ar ei glannau. Ar lannau Gwynedd ceir Caernarfon, Y Felinheli a Llanfairfechan, ac ar yr ynys ceir Porthaethwy a Biwmares.

Mae’r afon yn mynd i ddwy lle sef Pont Grog y Borth sydd yn cario’r A5, a Robert Stephenson 1850 Pont Britannia. Roedd Pont Britannia yn cario rheilffordd oedd yn symud bocsys mawr allan o heuan ond ar ôl tan fawr wnaeth dinistrio’r lle yn 1970 doedd yna bron iawn dim byd ar ôl yno. Ond cafodd i ail adeiladu a rŵan hefo rheilffordd a ffordd traffig sef y A55. Rhwng y ddwy pont mae yna ynys fach yno Ynys Gored Goch, hefo tai bach wedi cael ei adeiladu arno, a thrap pysgod sydd ddim yn cael ei defnyddio dim mwy.

Hanes golygu

Mae’r enw Menai yn dod o ‘Men-aw’ neu ‘Main-wy’, sydd yn meddwl ‘dŵr cul’. Yng nghwrs hanes Cymru gwelid sawl brwydr ar y Fenai neu ar ei glannau, o gyfnod y Rhufeiniaid pan wynebwyd lleng Suetonius Paulinus gan derwyddon a gwragedd Môn i Oes y Tywysogion. Un o fwriadau'r Saeson wrth godi castell Biwmares a chastell Caernarfon oedd gwarchod y fynedfa i'r Fenai o'r ddau ben.

Yn y 11g daeth dwy ffrind gyda'i gilydd i dwyn o Gymru ond wrth iddyn nhw wneud hynny dechreuodd y ddwy ffraeo a chawsant nhw frwydr yn Afon Menai. Ei enwau oedd Echmarcach mac Ragnaill ac Guttorm Gunnhildsson. Curodd Guttorm wrth weddïo i'r Sant Olaf ac roedd Echmarcach wedi cael ei lladd.

Yn y 12g roedd yna frwydr arall yn afon Menai gan yr Iarll Magnus Erlendson (a fyddai yn cael ei ganoneiddio fel Sant Magnus yn ddiweddarach). Roedd yn adnabyddus am ei grefyddoldeb a thirionder. Gwrthododd ymladd yn y frwydr yn Ynys Môn, ac arhosodd yn ei chwch. Mae’r digwyddiad hwn wedi'i darlunio yn y nofel Magnus gan George Mackay Brown a'r opera The Martyrdrom of Saint Magnus gan Peter Maxwell Davies.

Roedd yna ddigwyddiad gyda awyren. Roedd yn stormus iawn ac er roedd y ddynes eisiau trio pasio trwyddo, roedd yr awyrennwr yn gwybod bysant nhw ddim yn gwneud o drwy'r storm. Oherwydd y storm mi wnaethom gael ddamwain i mewn i bont, ond mi wnaeth neb byw. Os rydach yn mynd yno rŵan ac yn edrych yn agos ar y bont a'r tai o amgylch rydach yn gallu gweld hoelion o’r digwyddiad.

Gwreiddyn golygu

Mae’r afon rydem yn weld heddiw yn ganlyniad o achosiad erydiad rhewlifol o’r creigwely ymlaen llinell gwan roedd mewn cysylltiad gyda nam yn y system yn Afon Menai. Trwy'r gyfres o gynfas o rew ac oherwydd hynny symudodd o'r gogledd-ddwyrain ar draws Ynys Môn a llefydd cyfagos Arfon ac yn ysgwrfa'r graig ar y gwaelod, a gronyn hefyd yn teithio'r un ffordd. Y canlyniad oedd cyfres o greigwely llinol tyno trwy’r frodir. Roedd y rhan dwfn wedi cael ei orlifo gan y môr ar y diwedd o’r oes rhew pan gorffennodd.

Ecoleg golygu

Am fod y llanw mor anghyffredin a'i dyfroedd mor gysgodedig, mae gan y Fenai ecoleg amrywiol ac unigryw. Mae gan Afon Menai dros 1000 o rywogaethau gwahanol yna ac mae llawer yn cael eu darganfod hyd heddiw[1]. Ceir nifer o ysbynau môr yno. Sefydlwyd Ysgol Gwyddorau'r Môr Prifysgol Cymru, Bangor yn rhannol er mwyn ei hastudio. Gobeithir troi'r rhan fwyaf o'r Fenai yn Warchodfa Morwrol yn y dyfodol agos. Mae llawer o'r tir ar lannau Menai ar ochr Ynys Môn, rhwng Ynys Llanddwyn a Phorthaethwy, eisoes yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Effaith y Llanw golygu

Mae’r effaith rydach yn weld mae’r llanw yn cael yn gallu fod yn ddryslyd weithiau. Wrth i godiad llanw dynesu o’r de-orllewin, sydd yn achosi’r dŵr i ddilyn a mynd gogledd-ddwyrain ac wrth i hynny digwydd mae’n achosi’r lefelau’r dŵr i godi. Hefyd mae’r llanw yn llifo o amgylch Ynys Môn hyd nes, ar ôl ychydig o amser, mae’n dechrau llifo i'r afon a mynd i'r cyfeiriad de-orllewin o Biwmares. Erbyn yr amser mae hwn yn digwydd mae’r llanw o ddiwedd Caernarfon yn gwanhau ac mae’r llanw yn cario mlaen i godi mewn taldra ond mae’r ffordd mae’r llanw’n mynd yn newid.

Galeri golygu

Geirdarddiad golygu

Mae'n bosib mai tarddiad y gair Menai ydyw 'Men', sef 'mynd'.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyfeddodau Afon Menai. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. t. 6.
  2. Ar gof a Chadw: Arfordir Cymru;] S4C; adalwyd 27 Tachwedd 2015

Dolenni allanol golygu