Gregynog

plas hanesyddol yn Nhregynon, Powys
(Ailgyfeiriad o Plas Gregynog)

Plasdy hanesyddol yw Gregynog, a leolir yng nghymuned Tregynon, Powys. Mae'n cael ei redeg heddiw fel canolfan cynadleddau gan Brifysgol Cymru. Roedd yn rhodd i'r brifysgol ym 1963 gan y chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies, wyresau'r gŵr busnes llwyddiannus, David Davies Llandinam. Mae'n gartref i Wasg Gregynog sy'n argraffu llyfrau cain mewn argraffiadau cyfyngedig.

Gregynog
Mathplasty gwledig, gardd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstâd Gregynog Edit this on Wikidata
Lleoliady Drenewydd, Tregynon Edit this on Wikidata
SirTregynon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr201 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5675°N 3.3522°W Edit this on Wikidata
Cod postSY16 3PW Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethPrifysgol Cymru, Ymddiriedaeth Gregynog Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Hyd at 1914 roedd y rhan fwyaf o dir a ffermydd Tregynon, Betws Cedewain a'r cylch yn rhan o ystâd Gregynog.

Er 1932, cynhelir Gŵyl Gerddoriaeth Gregynog yno, sydd wedi denu rhai o enwau mawr y byd cerddorol fel Ralph Vaughan Williams, Gustav Holst, Benjamin Britten ac Edward Elgar.

Plas Gregynog cyn cafodd eu ail-adeiladu yn y 1840au

Hanes cychwynnol

golygu

Mewn cerdd gan Gynddelw Brydydd Mawr (1150-1200) y mae’r sôn cyntaf am yr enw Gregynog (ar y ffurf Grugunawg) fel llys neu enw ardal o bosibl: Grugunawg eryr Grugunan gynneddf ‘Arwr Grugynog a chanddo gynneddf [yr arwr] Gruganan’. Daeth yr enw lle Grugunawg o enw dyn Grugun, a’r enw hwnnw’n cynnwys yr elfen grug ‘heather’.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tegai Hughes, Glyn; Morgan, Prys; Thomas, J. Gareth (1977). Gregynog. Gwasg Prifysgol Cymru.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.