Plas Machynlleth
Y Plas, Machynlleth oedd cartref Ardalyddion Londonderry yng Nghymru. Fe'i lleolir yn nhref farchnad Machynlleth ym Mhowys (Sir Drefaldwyn gynt). Daeth i ran y teulu trwy briodas George Henry Robert Charles William Vane-Tempest, Is-iarll Seaham (ac wedi hynny Iarll Vane a 5ed Ardalydd Londonderry), â Mary Cornelia Edwards. Roedd ei thad, Syr John Edwards, wedi ymestyn ac ailenwi'r plas.
Math | plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Plas Machynlleth Estate |
Lleoliad | Machynlleth |
Sir | Machynlleth |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 14 metr |
Cyfesurynnau | 52.5883°N 3.8529°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguY plas oedd cartref teuluol 5ed Ardalydd Londonderry. Gadawodd ei fab hynaf Machynlleth wedi iddo ddod yn Ardalydd, ond arhosodd ei fab ieuengaf, yr Arglwydd Herbert Vane-Tempest, gan breswylio yn y Plas hyd nes iddo gael ei ladd yng ngwrthdrawiad trên Aber-miwl ar 26 Ionawr, 1921.
Daw darnau hynaf y plas o'r 17g; ychwanegwyd y brif fynedfa blaen ym 1853. Greenfields oedd enw'r plas am flynyddoedd lawer. Cafodd ei ail-enwi'n ddiweddarach ar ôl y dref.
Rhoddodd 7fed Ardalydd Londonderry y plas a'r stad yn rhodd i'r dref, a defnyddiwyd y plas ar gyfer swyddfeydd y cyngor. Ym 1995, ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £3 miliwn, a arianwyd gan Gyngor Dosbarth Maldwyn a'r Undeb Ewropeaidd, daeth yr adeilad yn ganolfan dreftadaeth "Celtica". Am nifer o flynyddoedd, llwyddodd y ganolfan i ddenu twristiaid, ymweliadau addysgol a chynadleddau. Daeth i feddiant yr awdurdod unedol newydd, Cyngor Sir Powys. Gydag ychydig iawn o fuddsoddiad gan y Cyngor, a nifer yr ymwelwyr yn dirywio, penderfynodd y Cyngor cau'r ganolfan yn 2006, gan nodi colled o £1,100,000 rhwng 1998 a 2006.[1] Defnyddir y Plas bellach fel canolfan gymunedol a lleoliad cyfarfodydd.
Y Fynedfa
golygu-
Y fynedfa o'r Ffordd Fawr i gyfeiriad y Plas
-
Y fynedfa o gyfeiriad y Plas tuag at y Stryd Fawr
-
Gatiau'r Plas, gyda'r Instytiwt ar y dde
Gweler hefyd
golyguCartrefi eraill Ardalyddion Londonderry:
- Londonderry House yn Llundain
- Mount Stewart yng Ngogledd Iwerddon
- Neuadd Seaham yn Swydd Durham
- Wynyard Park yn Swydd Durham
- Neuadd Loring yng Nghaint
Cyfeiriadau
golygu- ↑ BBC News (6 September 2005). "Celtica Attraction to Close". Cyrchwyd 2007-06-13.