John Edwards, Barwnig 1af Garth
Roedd Syr John Edwards, Barwnig cyntaf Garth (15 Ionawr 1770 - 15 Ebrill 1850) yn wleidydd Chwig / Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn[1]
John Edwards, Barwnig 1af Garth | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ionawr 1770 Plas Machynlleth |
Bu farw | 15 Ebrill 1850 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | John Edwards |
Mam | Cornelia Owen |
Plant | Mary Vane-Tempest |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Edwards ym 1770 yn fab i John Edwards, cyfreithiwr y Plas, Machynlleth a Cornelia unig blentyn byw ac aeres Richard Owen, Garth, Llanidloes. Roedd y teulu yn honni disgyniad o Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd.[2]
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen.
Ym 1792 priododd Catherine ferch hynaf a chyd etifedd Col. T Browne, Neuadd Mellington, yr Ystog, ni fu iddynt blant. Ym 1825 priododd Harriet ferch y Parch Charles Johnson a gweddw John Herbert Owen, ystâd Dolforgan. Bu iddynt un ferch Mary Cornelia a briododd Ardalydd Londonderry.
Gyrfa
golyguAr farwolaeth ei dad ym 1789 daeth Edwards yn etifedd Ystadau'r Plas a'r Garth gan ychwanegu at faint ei ystâd trwy ei briodasau, ei brif yrfa, gan hynny oedd un y sgweier, y tirfeddiannwr a'r landlord.
Bu hefyd yn gwasanaethu fel Is Gyrnol Milisia Gorllewin Sir Drefaldwyn
Gyrfa Wleidyddol
golyguCyn Deddf Diwygio'r Senedd 1832, dim ond pobl tref Trefaldwyn oedd yn cael pleidleisio yn etholaeth y fwrdeistref, roedd y dref, a gan hynny'r sedd, ym mhoced teulu Herbert Castell Powys. O dan delerau'r ddeddf caniatawyd pleidleisiau i wŷr cymwys o drefi Machynlleth, Llanidloes , y Trallwng , Llanfyllin a'r Drenewydd. Gwelodd Edwards gyfle i dorri grym yr Herbertiaid a'r Torïaid gan ganfasio a thretio'r darpar etholwyr newydd wrth i'r Bil ymlwybro trwy'r Senedd a dyfod yn Ddeddf, gan wario ffortiwn o £20,000 ar y dasg (tua £76 miliwn yn 2014 yn ôl gwerth grym economaidd cymharol y bunt)[3], er hynny collodd yr etholiad i David Pugh, yr ymgeisydd Torïaidd a noddwyd gan Gastell Powys:
Etholiad cyffredinol 1832: Bwrdeistref Trefaldwyn | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | David Pugh | 335 | 51.1 | ||
Rhyddfrydol | John Edwards | 321 | 48.9 |
Heriodd Edwards y canlyniad ger bron Llys Etholiadol y Senedd, enillodd yr achos a gorchymynnwyd etholiad newydd, gan wahardd Pugh rhag ail ymgeisio. Canlyniad yr etholiad newydd oedd bod Edwards wedi ennill o 10 bleidlais:
Isetholiad Bwrdeistref Trefaldwyn 1833 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | John Edwards | 331 | 50.8 | ||
Ceidwadwyr | Panton Corbett | 321 | 49.2 | ||
Mwyafrif | 10 | ||||
Y nifer a bleidleisiodd | 652 | 90.2 | |||
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr | Gogwydd |
Heriwyd y canlyniad gan yr ymgeisydd Torïaidd, Panton Corbett, yn y Llys Etholiadol ond dyfarnwyd o blaid Edwards. Llwyddodd i gadw ei sedd hyd etholiad 1841 pan gafodd ei drechu gan Hugh Cholmondeley.
Bu'n gwasanaethu fel Uchel Siryf Sir Feirionnydd ym 1805 ac fel Uchel Siryf Sir Drefaldwyn ym 1818.
Cafodd ei greu'n Farwnig ym 1838
Marwolaeth
golyguBu farw yn y Plas, Machynlleth ym 1850 yn 80 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys San Pedr, Machynlleth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ EDWARDS , Syr JOHN (1770 - 1850), Y bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 8 Medi, 2015
- ↑ Montgomeryshire Worthies, Williams, Richard, 1894 t 54-55 [2] adalwyd 8 Medi 2015
- ↑ MeasuringWorth [3] Archifwyd 2016-04-11 yn y Peiriant Wayback adalwyd 8 Medi 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Pugh |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1833 – 1841 |
Olynydd: Hugh Cholmondeley |