Plas Mostyn
Plasdy enfawr mewn 25 acer (10ha) o erddi yw Plas Mostyn a saif ger pentref Mostyn yn Sir y Fflint. Mae'r plas wedi'i gofrestru gan Cadw fel Gradd I ac mae rhannau ohono'n dyddio i 1470.[1]
Math | plasty, plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Mostyn |
Sir | Mostyn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 74 metr |
Cyfesurynnau | 53.3164°N 3.28°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
'Y Neuadd Fawr' yw'r rhan hynaf o'r adeilad, ac mae wedi'i ddyddio i 1470; cafodd ei hatgyweirio a'i ehangu yn 1631-2 gan Roger a Mary Mostyn, a oedd yn perthyn i Ieuan Fychan, un o sefydlwyr y teulu Mostyn. Mab Ieuan a ddechreuodd ddefnyddio'r enw 'Mostyn' fel cyfenw'r teulu.[2]
Ers 1660 bu'r plas yn gartref i Farwnigion Mostyn, ac ers 1831, bu'n gartref i Farwniaid Mostyn. Yn y 1840au comisiynodd Edward Pryce Lloyd, Barwn 1af Mostyn bensaer o'r enw Ambrose Poynter i ailwampio'r tŷ, a gwnaed hynny rhwng 1846–47 mewn arddull Jacobeaidd, gan barchu'r rhan a oedd eisoes yno.[3]
-
Mostyn Hall gates
-
Braslun o fuarth Plas Mostyn cyn ailwampio'r plas yn y 1840au.
-
Plas Mostyn ("Mostyn Hall"). c.1781
Wrth ochr y ffordd fawr ceir 'gatws' neu 'borthdy' lle'r arferai'r porthor fyw, ac mae'r tŷ hwn yn dyddio i 1570. Ceir gatiau crand wedi'u haddurno, gatiau agynlluniwyd yn y 18g mewn arddull baróc gan y pensaer John Douglas a'u gwneud gan James Swindley yn 1896.[3] Cofrestrwyd y gatiau, y colofnau a'r bont gerllaw yn Radd II.[4]
Mae'r plasty'n parhau i fod yn nwylo yr un teulu: y Teulu Mostyn. Ers 2014, bu Plas Mostyn ar agor i'r cyhoedd ar rai dyddiau o'r flwyddyn.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mostyn Hall, Cadw, http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=21517, adalwyd 21 Awst 2013[dolen farw]
- ↑ "Mostyn Hall, Mostyn". British Listed buildings. Cyrchwyd 25 Awst 2014.
- ↑ 3.0 3.1 Hubbard, Edward (1986). The Buildings of Wales: Clwyd. London: Penguin. tt. 400–401. ISBN 0-14-071052-3.
- ↑ Entrance piers, gates and bridge to Mostyn Hall, Cadw, http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=26263, adalwyd 21 Awst 2013[dolen farw]
- ↑ "Mostyn Hall Opening to Public". Mostyn Estates. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-12. Cyrchwyd 25 Awst 2014.
Dolennau allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2015-02-12 yn y Peiriant Wayback