Mostyn (teulu)

teulu Cymreig, o Mostyn Hall

Crewyd y teulu Mostyn gwreiddiol pan dynnwyd pum teulu llai (neu'r "Pum Llys") at ei gilydd yn y 14g a'r 15g: Pengwern (Llangollen), Mostyn (Sir y Fflint), Gloddaith (Llandudno) a Threcastell a Thregarnedd (y ddau o Ynys Môn). Y cyntaf i etifeddu'r Pum Llys oedd Thomas ap Richard (Thomas Mostyn I), yn 1541. Roeddent yn chwarae rhan amlwg iawn yn Eisteddfod Caerwys yn 1523 ac eilwaith yn 1567 a bu sawl cenhedlaeth o'r teulu'n noddi beirdd Cymraeg y cyfnod.

Ceir dwy gangen o'r hen deulu Cymreig Mostyn yn Sir y Fflint a cheir dwy farwniaeth wahanol:

Teulu Mostyn o bentref Mostyn
Crewyd y farwnigiaeth yn y teulu hwn yn 1660.
Prif gartref y teulu: Plas Mostyn[1]
Gellir olrhain y teulu i o leiaf 1301 (Ithel Mostyn) ac ymhlith aelodau cynnar y teulu mae Ieuan (Pengwern a Mostyn), a oedd yn gyfoeswr i Guto'r Glyn; ar ochr ei fam, roedd yn perthyn i Edmwnd a Siasbar Tudur.
Teulu Mostyn, Talacre
Crewyd y farwnigiaeth yn y teulu hwn yn 1670.[2]
Prif gartre'r teulu: Plas Talacre.
Mae Mostyniaid Talacre (o ran y farwniaeth) yn disgyn o Peter (Peyrs neu Piers), mab Richard ap Howel a'i wraig Catherine, merch Thomas Salusbury yr hynaf, Lleweni

Yn 2018 roedd y teulu'n dal tiroedd eang iawn, o bosib yn un o'r 'teuluoedd tiriog mwyaf blaenllaw Cymru'.[3] yn 1873 roedd gan y teulu 2,210ha o dir yn Sir y Fflint a 620ha yn Sir Gaernarfon.

Roedd Syr Roger Mostyn yn berchen ar lyfrgell o lawysgrifau Cymraeg pwysig; trosglwyddwyd y llyfrgell hon i'r Llyfrgell Genedlaethol ac i Brifysgol Bangor. Ŵyr i Syr Roger Mostyn oedd yr Arglwydd Mostyn cyntaf (teitl a grewyd yn 1831) ac erbyn ei farwolaeth yn 1854 roedd Llandudno yn datblygu fel tref glan y môr, ffasiynol iawn. Dan awdurdod Deddf Seneddol 1843, caewyd y tir comin gwastad yng nghysgod y Pen y Gogarth.

Barwniaeth Mostyn (1831)

golygu

Teitl sy'n rhan o Bendefigaeth y Deyrnas Unedig yw Barwniaeth Mostyn, a gychwynwyd yn 1831 ar gyfer Edward Pryce Lloyd, Barwn 1af Mostyn. Cyn hynny roedd yn cynrychioli Bwrdeistrefi Fflint a Biwmares yn y Nhŷ'r Cyffredin, fel Aelod Seneddol.

Daeth ei fab, yr ail farwn, hefyd yn Aelod Seneddol Sir Fflint a Caerlwytgoed (Lichfield) ac fel Arglwydd Raglaw Meironnydd.

Yr etifedd presennol yw Roger Hugh Lloyd-Mostyn (g. 1941), gor-gor-wyr yr AIl farwn.[4]
Yna, ceir yn etifedd: Christopher Edward Lloyd-Mostyn (g. 1968)
Alexander James Lloyd-Mostyn (g. 2000)

Crewyd y Farwniaeth yn 1831 wedi i Farwnigion Pengwerra (1778) ddod i ben:

Barwnigion

golygu

Lloyd - Barwnigion Pengwerra (1778)

golygu

Barwnigion Mostyn, o Fostyn (1660)

golygu
Nodyn: Mae 'barwnig' yn fath o farwn, gyda statws ychydig is.

Teulu Mostyn, Talacre

golygu

Aelod o'r teulu hwn oedd Francis Mostyn (1860 - 1939), pedwerydd mab yr 8fed barwnig (Syr Pyers Mostyn). Daeth ef yn Vicar Apostolic of Wales yn 1895; gwnaethpwyd ef yn esgob 'Menevia' yn 1898 ; a bu'n archesgob Caerdydd o 1921 hyd at ei farwolaeth ar 25 Hydref 1939.

Barwnigion Mostyn, o Dalacre (1670)

golygu
  • Syr Edward Mostyn, barwnig 1af (1636-1715)
  • Syr Pyers Mostyn, ail farwnig (1655-1720)
  • Syr Pyers Mostyn, 3ydd barwnig (1682-1735)
  • Syr George Mostyn, 4ydd barwnig (1690-1746)
  • Syr Edward Mostyn, 5ed barwnig (1725–1775)
  • Syr Pyers Mostyn, 6ed barwnig (1749–1823)
  • Syr Edward Mostyn, 7fed barwnig (1785–1841)
  • Syr Pyers Mostyn, 8fed barwnig (1811–1882)
  • Syr Pyers William Mostyn, 9fed barwnig (1846–1912)
  • Syr Pyers Charles Mostyn, 10fed barwnig (1895–1917)
  • Syr Pyers George Joseph Mostyn, 11fed barwnig (1893–1937)
  • Syr Pyers Edward Mostyn, 12fed barwnig (1928–1955)
  • Syr Basil Anthony Trevor Mostyn, 13ydd barwnig (1902–1956)
  • Syr Jeremy John Anthony Mostyn, 14ydd barwnig (1933–1988)
  • Syr William Basil John Mostyn, 15ed barwnig (g. 1975)

Yn 2018 etifedd yr ystad oedd Rohan Jeremy Mostyn (g. 2012), mab Basil John Mostyn, 15ed barwnig.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Teitl: MOSTYN (TEULU), Mostyn Hall, Sir y Fflint
  2. Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Teitl: MOSTYN (TEULU), Talacre, Sir y Fflint .
  3. Gwyddoniadur Cymru; gol: John Davies; Gwasg Prifysgol Cymru (2008); tud 640.
  4. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-24. Cyrchwyd 2012-06-09. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)