Tanwydd ffosil
Mae petroliwm, nwy naturiol, glo, a mawn yn danwydd ffosil (neu danwydd ffosiledig). Mae tanwydd ffosil yn cynnwys llawer o hydrocarbon ac yn cael ei losgi am ei ynni, er mwyn cynhyrchu gwres neu drydan neu i yrru peirannau er enghraifft mewn ceir, trênau, llongau ac awyrennau. Wrth gael ei losgi, mae tanwydd ffosil yn rhyddhau carbon deuocsid, un o'r nwyon tŷ gwydr cryfaf.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b6/Coal.jpg/220px-Coal.jpg)
Dydy'r maint tanwydd ffosil ar gael ddim yn ddi-ben-draw am fod e'n adnodd naturiol. Achos o bryderon ar gyfer hynny ac ar gyfer yr amgylchedd roedd daeth datblygu ynni cynaliadwy fel ynni'r haul, y gwynt neu'r llanw yn fwy pwysig ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ffurfiwyd olew a nwy naturiol o ddefnydd organig marw (anifeiliaid môr a phlanhigion môr wedi marw) a gasglodd ar waelod y môr o dan waddodiad anathraidd a newidiwyd o ganlyniad dymheredd a gwasgedd arno yn ogystal â phydredd anaerobig. Ffurfiwyd glo o ganlyniad bydredd anaerobig, hefyd, ond ddim yn y môr ond trwy bydred planhigion ar diroedd gwlybion.