Platennau
Y platennau yw'r celloedd coch sy'n arnofio ym mhlasma'r gwaed yng nghyrff anifeiliaid. Eu pwrpas yw ceulo'r gwaed drwy dewychu ac atal y gwaed rhag llifo allan o'r corff pan geir clwyf.[1] Yn wahanol i gelloedd eraill yn y corff, nid oes gan y platen gnewyllyn. Rhannau o sytoplasm ydynt, a ddaeth o'r megacaryosytau ym mêr yr esgyrn.[2].
Enghraifft o'r canlynol | math o gell |
---|---|
Math | cell waed, non-nucleated solocyte |
Rhan o | gwaed |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae nhw'n ddeugrwm o ran siâp, yn 2–3 µm ar eu mwyaf, mewn diametr, ac yn debyg i lens. Fe'u ceir mewn mamaliaid yn unig.
Ar rwbiad o waed, maen nhw i'w gweld fel smotiau piws, tua 20% mewn diametr, o'u cymharu gyda chelloedd coch. Defnyddir y rwbiad i fesur maint y celloedd, eu siâp, eu niferoedd ac a ydynt yn clystyru. Y gymhareb o blatennau i gelloedd coch, mewn oedolyn, yw 1:10 to 1:20.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Laki K (Dec 8, 1972). "Our ancient heritage in blood clotting and some of its consequences". Annals of the New York Academy of Sciences 202: 297–307. doi:10.1111/j.1749-6632.1972.tb16342.x. PMID 4508929.
- ↑ Machlus KR; Thon JN; Italiano JE (2014). "Interpreting the developmental dance of the megakaryocyte: A review of the cellular and molecular processes mediating platelet formation". British Journal of Haematology 165 (2): 227–36. doi:10.1111/bjh.12758. PMID 24499183.