Rakuten.co.uk
cwmni; play.com cyn hynny
(Ailgyfeiriad o Play.com)
Adwerthwr arlein sydd wedi'i leoli yn Jersey ydy Play Ltd., sy'n masnachu o dan yr enw Play.com. Gwerthant DVDs, CDs, llyfrau, teclynnau, gemau fideo, lawrlwythiadau MP3, a nwyddau electronig eraill, yn ogystal â dillad a mwyddau eraill. Mae'n un o is-gwmnïau'r Rakuten Group.
Enghraifft o'r canlynol | busnes, gwefan |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1998 |
Perchennog | Rakuten |
Rhagflaenydd | Rakuten.co.uk |
Pencadlys | Beilïaeth Jersey |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.rakuten.co.uk/ |
Fe'i sefydlwyd yn 1998, a daeth Play.com yn un o'r cwmnïau arlein cyntaf i dargedu'r DU. Yn ôl Hitwise sy'n monitro traffig i wefannau, Play.com yw'r adwerthwr arlein ail fwyaf yn y DU, ac mae o fewn y 50 adwerthwr arlein mwyaf yn fyd-eang. Mae ganddynt 7,000,000 o gwsmeriaid cofrestredig, catalog o dros 8,000,000 o gynhyrchion ac maent yn cyflogi dros 500 o staff.