Playa del Inglés

Mae Playa del Inglés (sef "Traeth y Sais" yn Sbaeneg) yn dref ar arfordir ddeheuol ynys Gran Canaria. Mae'n rhan o ranbarth San Bartolomé de Tirajana. Mae yno draeth hir o dywod euraidd a thwyni tywod a grëir gan dywod o anialdir y Sahara. Cysylltir Playa del Inglés gyda threfi arfordirol eraill gan gynnwys San Agustín a Maspalomas yng nghanolfan dwristaidd yr ynys. Yn 2002, poblogaeth Playa del Inglés oedd 17,158 ond gwelwyd twf yn y boblogaeth ers hynny. Ar hyd glan y mor, ceir amrywiaeth o westai, tai bwyta, tafarndai a villas.

Playa del Inglés
Mathanheddiad dynol, traeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSan Bartolomé de Tirajana Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Cyfesurynnau27.75°N 15.5806°W Edit this on Wikidata
Map
Golygfa o westy yn Playa del Inglés
Templo Ecumenico

Cysylltir Playa del Inglés gyda'r hen briffordd sy'n cysylltu Puerto de Mogan a Las Palmas de Gran Canaria. Cyn dyddiau twristiaeth amaethyddiaeth oedd prif ddiwydiant yr ardal ac erbyn y dyddiau hyn busnes ac amaethyddiaeth yw'r ddau brif ddiwydiant ar yr ynys. Gellir gweld mynyddoedd i ogledd Playa del Inglés.

Yng nghanol Playa del Inglés ceir y Yumbo Centrum sy'n cynnwys amrywiaeth o fariau, tai bwyta a chlybiau hoyw.

Ardaloedd cyfagos

golygu
  • Mae gan Playa del Inglés ysgolion uwchradd a chynradd, campfeydd, eglwysi, banciau a phlazas.
  • Mae Playa del Inglés yn ganolfan dwristaidd poblogaidd.

Dolenni allanol

golygu