Plygiant
Plygiant yw'r newid gweladwy mewn ton oherwydd newid ei fuanedd. Gwelir hyn pan mae ton yn pasio trwy un cyfrwng gweladwy i'r llall. Plygiant golau yw'r esiampl mwyaf amlwg, ond gall unrhyw don blygu wrth newid cyfrwng. Disgrifir plygiant gan Deddf Snell:
Math | ffenomen yr arwyneb |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r hafaliadau isod yn ufuddhau i'r ddeddf Snell
Neu
Lle mae
- a yn gyflymderau trwy'r cyfrwng.
- a yw'r ongl rhwng y normal a'r pelydryn trawol.
- a yw'r mynegrif plygiant.
Eglurhad
golyguMewn opteg, mae plygiant yn ffenomena sy'n digwydd pan fo tonnau'n teithio drwy gyfrwng gyda un mynegrif plygiant i gyfrwng arall (gyda mynegrif plygiant arall) ar ongl arosgo. Ar y ffin hwnnw rhwng y ddau gyfrwng mae cyflymder y tonnau'n newid, sydd fel arfer, hefyd yn creu newid yn y cyfeiriad. Mae ei donfedd yn cynyddu neu'n lleihau, ond ei amlder yn aros yn gyson. Er enghraifft, mae ton o olau yn plygu fel y mae'n treiddio i fewn i wydr ac fel mae'n dod allan ohono. Mae ton sy'n teithio ar hyd y normal (h.y. yn berpendicwlar i'r ffin rhwng y ddau gyfrwng), fodd bynnag, yn newid cyflymder ond nid ei chyfeiriad. Dywedir fod 'plygiant' yn dal i ddigwydd yn yr achos yma. Roedd dealltwriaeth o'r ffenomena hwn a'r syniadaeth hyn yn allweddol i'r gwaith o ddyfeisio lensys a thelesgop.