Mae'r Guna, oedd yn cael eu hadnabod fel Kuna cyn y diwygiad orthograffig yn 2010[1], ac sydd wedi'u hadnabod yn hanesyddol fel Cuna, yn bobl frodorol i PanamaColombia. Yn eu hiaith Dulegaya, maen nhw'n galw eu hunain yn Dule neu Tule, sy'n golygu "pobl". Ystyr llythrennol y gair 'Dulegaya' yw "ceg y bobl".[2]

Gwraig Guna yn gwerthu molas yn Ninas Panama

Lleoliad golygu

Mae'r Guna yn byw mewn tair comarca neu llain yn Panama, ac mewn ychydig o bentrefi bychain yn Colombia. Triga sawl cymuned o bobl Kuna hefyd yn Ninas Panama, Colón, a dinasoedd eraill. Mae'r rhan fwyaf o bobl Guna yn byw ar ynysoedd bychain oddi ar arfordir comarca Kuna Yala sy'n cael eu hadnabod fel Ynysoedd San Blas. Y ddwy comarca arall yn Panama yw Kuna de Madugandí a Kuna de Wargandí. Hwy yw'r bobl sy'n siarad Guna a oedd unwaith yn byw yn rhanbarth ganolog yr hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Panama ac ynysoedd San Blas cyfagos, ac sy'n dal i oroesi mewn ardaloedd ymylol.

Diwylliant golygu

Mae'r Guna yn adnabyddus am eu molas llachar, celf gwehyddol lliwgar sydd wedi'i wneud â thechnegau appliqué ac appliqué o chwith. Mae paneli mola yn cael eu defnyddio i wneud y blowsys sy'n rhan o wisg nodweddiadol menywod y Guna. Mae mola yn golygu "dillad" mewn Dulegaya. Y gair Dulegaya ar gyfer blows mola yw tulemola, (neu "dulemola"), sef "dillad pobl Guna."

Iaith golygu

Mae Dulegaya yn un o ieithiedd cynhenid yr Americas ac yn perthyn i deulu ieithoedd Chibchan sy'n cael ei siarad gan 50,000 i 70,000 o bobl. Dulegaya yw'r brif iaith yn y comarcas, ac mae'r mwyafrif o blant Guna yn siarad yr iaith. Er ei bod yn gymharol gynaliadwy, mae Guna yn cael ei hystyried yn iaith sydd dan fygythiad.

Trefniadaeth wleidyddol a chymdeithasol golygu

Yn Guna Yala, mae gan bob cymuned ei threfniadaeth wleidyddol ei hun sy'n cael ei arwain gan 'saila'. Yn ol traddodiad, y saila yw arweinydd gwleidyddol a chrefyddol y gymuned; mae'n cadw caneuon ar ei gof sy'n adrodd hanes cysegredig y bobl, ac yn eu cyflwyno i'r bobl. Mae penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn Onmaked Nega, neu Ibeorgun Nega (Ty Cyngress neu Casa de Congreso), adeilad sydd hefyd a chanddo bwrpas gwleidyddol ac ysbrydol, ac yno y bydd y saila yn canu hanes, chwedlau a chyfreithiau'r Guna ynghyd â gweinyddu materion gwleidyddol a chymdeithasol o ddydd i ddydd. Fel arfer, mae gan y saila gwmni un neu ragor o 'voceros' sy'n gweithredu fel dehonglwyr neu gynghorwyr iddo. Oherwydd bod caneuon a hanes llafar y Guna mewn cofrestr ieithyddol uwch gyda geirfa arbenigol, bydd llefaru'r saila yn aml yn cael ei ddilyn gan esboniad neu ddehongliad gan un o'r voceros yn iaith anffurfiol y Guna.

Yn draddodiadol, mae teuluoedd y Guna yn dilyn llinach y fam, gyda'r priodfab yn symud i fod yn rhan o deulu'r briodferch. Y priodfab sy'n cymryd cyfenw'r briodferch hefyd.

Heddiw mae 49 o gymunedau yn Kuna Yala. Mae'r rhanbarth yn ei gyfanrwydd yn cael ei lywodraethu gan Gyngres Gyffredinol y Guna, sy'n cael ei arwain gan dri Saila Dummagan ("Sailas Mawr").[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Lenguaje – ¿Guna, kuna o cuna?: James Howe" [Language – Guna, kuna or cuna?: James Howe]. La Prensa (yn Spanish). 22 Chwefror 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Erice, Jesus (1985), Diccionario de la Lengua Kuna, Impresora La Nacion (INAC)
  3. "Nuestras Autoridades de Kuna Yala" [Our Authorities of Kuna Yala]. Comarca Kuna Yala / Congreso Generales Kunas. 12 Hydref 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Chwefror 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)