Agor y brif ddewislen

Prif ddinas Panama yw Dinas Panama (Panamá). Mae hi ar arfordir y Cefnfor Tawel ac ar Gamlas Panamá. Mae tua 708,738 o bobl yn byw yno. Dinas Panama ydy canolbwynt gwleidyddiaethol, gweinyddol a diwylliannol y wlad.

Dinas Panama
Panamacity.png
Coat of Arms of Panama City.svg
Math Prifddinas, Dinas, metropolitan area Edit this on Wikidata
Poblogaeth 880,691 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Awst 1519 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Taipei, Fort Lauderdale, Guadalajara, Incheon, Miami, Tel Aviv, Paita, Dinas Mecsico, Madrid, San Diego Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Central Panama Edit this on Wikidata
Sir Panamá District Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Panama Panama
Arwynebedd 275 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 2 ±1 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 9°N 79.5°W Edit this on Wikidata
Sylfaenwyd gan Pedro Arias Dávila Edit this on Wikidata

HanesGolygu

Sefydlwyd y ddinas hon gan Pedro Arias de Ávila (Pedrarias Davila) ar 15 Awst 1519. Ers y cyfnod hynny, mae masnach ar draws y culdir wedi bod yn bwysig iawn i'r ddinas. O'r fan yma roedd yr alldaith a choncwest Periw wedi dechrau ac roedd yr aur a'r arian yn cael eu danfon i Sbaen trwy'r dref. Ym 1671 roedd Henry Morgan a 1400 o ddynion eraill wedi ymosod ar y dref ac fe'i llosgwyd o ganlyniad. Mae olion y dref i'w gweld hyd yn oed heddiw ond adeiladwyd y dref newydd rhyw 5 milltir i'r gorllewin ym 1673. Enw olion y dref cyntaf yw Panamá la Vieja ac mae llawer o dwristiaid yn ymweld â'r fan.

Pan ddarganfuwyd aur yn Nghaliffornia ym 1848, cynyddodd y nifer o deithwyr a oedd yn mynd trwy Panamá i'r gogledd. Y flwyddyn cyn hynny, sefydlwyd Cwmni Rheilffordd Panamá, ond nid oedd trenau yn rhedeg cyn 1855. Fodd bynnag, adeiladwyd y rheilffordd gyntaf o'r arfordir gorllewinol i arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau ym 1869, ac felly roedd tua 375,000 o bobl yn teithio trwy Panamá i'r arfordir gorllewinol a thua 225,000 o bobl i'r arfordir dwyreiniol. Wrth gwrs, roedd hynny'n golygu y datblygodd Panamá yn ddinas gyfoethog iawn ar y pryd.

Roedd Camlas Panamá yn golygu ffyniant o'r newydd i'r ddinas. Yn bennaf, roedd iechyd y boblogaeth yn gwella o ganlyniad i waith yr Americanwyr yng Nghylchfa'r Camlas. Roedd llai o glefyd melyn a malaria ac roedd y gwasanaeth dŵr yn well. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd canolfannau milwrol gan yr UDA ar hyd y camlas. O ganlyniad roedd llawer o bobl milwrol a sifil yn dod i'r ddinas ac yn gwario eu harian yno, ond ar y llaw arall nid oedd pawb yn hapus i weld byddin gwlad dramor yn eu gwlad ac roedd llawer o'r canolfannau milwrol ar lannau'r gamlas - ac felly roedd hi'n amhosib i'r trigolion gyrchu yno cyn y 1960au.

Rhwng y 1970au a'r 1980au daeth Panamá i fod yn ganolfan i fanciau rhyngwladol, ond gwelwyd roedd problemau gyda "golchi arian" hefyd.

Ar ôl bron i flwyddyn o densiwn rhwng UDA a Panamá, gorchmynodd Arlywydd Bush oresgyniad Panamá a chwymp General Manuel Noriega. O ganlyniad, llosgwyd un ardal o'r ddinas o'r enw El Chorillo, ond cafodd ei ail-adeiladu gan arian o'r UDA yn hwyrach.

Heddiw, mae'r ddinas yn dal i fod yn ganolfan bancio rhyngwladol. Mae porthladd yn Balboa, y dref gyfagos.

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

  • Basilica Sant John Bosco (eglwys)
  • Estadio Rommel Fernandez
  • Puente de las Américas (pont)
  • Ysbyty Gorgas

EnwogionGolygu