Gwyach gorniog

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Podiceps auritus)
Gwyach gorniog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Podicipediformes
Teulu: Podicipedidae
Genws: Podiceps
Rhywogaeth: P. auritus
Enw deuenwol
Podiceps auritus
(Linnaeus, 1758)
Podiceps auritus

Mae'r Wyach gorniog, Podiceps auritus, yn aelod o deulu'r Podicipedidae, y gwyachod.

Mae tipyn yn llai na'r Wyach fawr gopog, tua 31–38 cm (12–15 modfedd) o hyd, a 46–55 cm ar draws yr adenydd. Yn yr haf, mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda phen du a gwddf coch. Daw'r enw o'r cudynnau o blu hir ar y pen, sy'n edrych fel cyrn. Yn y gaeaf, collir y rhain, ac mae'r aderyn yn ddu a gwyn.

Mae'n nythu ar lynnoedd dŵr croyw ar draws Ewrob ac Asia, a hefyd rhannau o'r Unol Daleithiau a Canada. Fel rheol, mae'n symud ymhellach i'r de yn y gaeaf. Pysgod yw ei bwyd arferol.

Nid yw'r Wyach gorniog yn nythu yng Nghymru fel rheol, ond ceir niferoedd bychain o gwmpas yr arfordir yn ystod y gaeaf, er enghraifft o gwmpas Traeth Lafan.