Pont Fawr Dolgellau
Saif Y Bont Fawr ar Afon Wnion, un o lednentydd Afon Mawddach, ar gwr Dolgellau ym Meirionnydd, de Gwynedd. Cafodd y bont wreiddiol ei hadeiladu yn 1638 ond mae wedi cael ei atgyweirio a'i newid sawl gwaith ers hynny. Mae'n dwyn y briffordd A470 dros afon Wnion.
Math | pont |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dolgellau |
Sir | Dolgellau |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 8 metr |
Cyfesurynnau | 52.7445°N 3.885°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Codwyd y bont wreiddiol yn 1638 yn bont faen gyda deg bwa, ffaith a gofnodir ar garreg yn ochr ddwyreiniol y bont.[1] Daethpwyd i'w galw "Y Bont Fawr" i wahaniaethu rhyngddi a phont lai yn is i lawr yr afon, sef 'Y Bont Fach'. Collwyd tri o'r bwau gwreiddiol ar yr ochr ogleddol pan adeiladwyd y rheilffordd yn 1868.[2] Yn 1903 gorlifiodd afon Wnion a difrodwyd y bont yn sylweddol.[1]
Yn 1981 bu newidiadau eto pan adeildawyd ffordd osgoi Dolgellau ar hyd llwybr yr hen reilffordd. Wrth ben dwyreiniol y bont, ochr y dref, ceir maes parcio mawr ar lan yr Afon Wnion ac adeilad Neuadd Sir Feirionnydd a ddefnyddir fel llys ynadon. Wrth ymyl y neuadd ceir parc bychan Cae Marian ar lan yr afon. Stryd y Bont yw enw'r stryd sy'n mynd o'r bont i Sgwar Eldon yng nghanol y dref.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Llwybr Tref Dolgellau
- ↑ "gwefan Heneb". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-11. Cyrchwyd 2010-03-13.
- ↑ 'Rhodfa Tre Dolgellau' (pamffledyn), Cyngor Tref Dolgellau.