Pont Golden Gate
Pont enwog sy'n croesi Culfor Golden Gate ger San Francisco, yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America, yw Pont Golden Gate (Saesneg: Golden Gate Bridge).
Math | pont grog, pont ddur, tollbont, pont ffordd, atyniad twristaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Golden Gate |
Agoriad swyddogol | 28 Mai 1937 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Seven Wonders of the Modern World |
Sir | Marin County, San Francisco |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 37.8197°N 122.4786°W |
Hyd | 8,981 troedfedd |
Perchnogaeth | Golden Gate Bridge, Highway and Transportation District |
Statws treftadaeth | California Historical Landmark, Historic Civil Engineering Landmark |
Manylion | |
Deunydd | dur |
Mae'n bont grog 1280 m (4,200 troedfedd) o hyd. Cwblhëwyd y gwaith adeiladu yn 1937. Ar y pryd, hon oedd y bont hiraf yn y byd, ond collodd ei safle gydag agor Pont Verrazano-Narrows yn ninas Efrog Newydd yn 1964, sy'n croesi Harbwr Efrog Newydd. Mae'r bont yn symbol eiconaidd o ddinas San Francisco ac mae i'w gweld mewn sawl golygfa ffilm Hollywood, er enghraifft yn Vertigo (1958) gan Alfred Hitchcock.