Pont Howrah
Mae Pont Howrah yn bont enfawr sy'n rhychwantu Afon Hooghly yn Calcutta, Gorllewin Bengal, yn India.
![]() | |
Math |
cantilever bridge, pont ddur ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Rabindranath Tagore ![]() |
![]() | |
Agoriad swyddogol |
3 Chwefror 1943 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ward No. 22, Kolkata Municipal Corporation ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
22.5853°N 88.3469°E ![]() |
Hyd |
655.7 metr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
KMC Heritage Building Grade I ![]() |
Manylion | |
Deunydd |
dur ![]() |
Pont gantilifer 450 medr ydyw sy'n croesi'r afon fawr mewn un rhychwant hir. O ran ei maint mae'n debyg i bont harbwr Sydney. Fe’i hadeiladwyd yn 1943 i gymryd lle’r hen bontŵn a oedd yn medru agor i adael llongau trwodd. Dywedir bod 60,000 o gerbydau yn ei chroesi bob dydd ac mae’n gallu bod yn lle prysur iawn yn ystod yr oriau brys; yn wir, yn ôl rhai awdurdodau hon yw’r bont brysuraf yn y byd. Yn ogystal â'r ceir a bysus mae degau o filoedd o bobl yn ei chroesi ar droed bob dydd.
Ar lan orllewinol yr afon mae'r bont yn arllwys ei thraffig i'r sgwâr prysur o flaen gorsaf Howrah. Gerllaw mae'r hen longau fferi yn dal i croesi'n ôl ac ymlaen o Howrah Ghat.